Mae cerdyn adnabod SMART Myfyriwr Prifysgol De Cymru yn amlbwrpas ac yn gweithredu fel eich cerdyn adnabod Prifysgol, cerdyn Llyfrgell, cerdyn Mynediad Drws ac yn caniatáu mynediad i chi at wasanaethau a chyfleusterau'r Brifysgol.
Byddwch yn cael cerdyn adnabod myfyriwr ym mlwyddyn gyntaf eich cwrs. Bydd eich cerdyn adnabod yn parhau'n ddilys trwy gydol eich cwrs ac ni fydd yn cael ei ail-gyhoeddi'n flynyddol. Mae'r dyddiad dod i ben i'w weld ar y cerdyn.