Aerial photo of Treforest_25503

Eich Amserlen

Bydd eich amserlen sefydlu ac addysgu yn llenwi eich calendr Outlook PDC yn awtomatig. Bydd diweddariadau'n cysoni'n awtomatig, sy'n golygu y bydd gennych chi'r wybodaeth ddiweddaraf ar flaenau eich bysedd ar unrhyw adeg.

Gall eich amserlen newid oherwydd amgylchiadau annisgwyl a byddem yn argymell eich bod yn gwirio eich amserlen bersonol yn rheolaidd. Os bydd eich amserlen yn cael ei haildrefnu, caiff hon ei diweddaru'n awtomatig yng nghalendr Outlook PDC.

Amseroedd Addysgu

Ein nod yw sicrhau bod eich amserlen fel arfer yn cael ei chyflwyno ar y campws dros o leiaf dri diwrnod yr wythnos ac uchafswm o bedwar diwrnod.

Bydd addysgu fel arfer yn cael ei gyflwyno rhwng yr oriau 9:00am-6:00pm. Fodd bynnag, mae'n bosib y bydd adegau pan fydd addysgu'n digwydd hyd at 9:00pm neu'n cael ei gyflwyno ar-lein.

Fel rheol, bydd gennych fwlch o awr ar gyfer egwyl yn eich amserlen rhwng 11:00am a 3:00pm.

Dyddiau Addysgu

Ein nod yw cadw eich addysgu ar yr un diwrnodau drwy gydol y flwyddyn, er mwyn caniatáu i chi gynllunio ymrwymiadau ymlaen llaw. Fodd bynnag, gall amgylchiadau nas rhagwelwyd arwain at newid i'ch diwrnodau ar yr amserlen.

  • Dydd Llun (9:00am-9:00pm)
  • Dydd Mawrth (9:00am-9:00pm)
  • Dydd Mercher (9:00am-12:00pm)
  • Dydd Iau (9:00am-9:00pm)
  • Dydd Gwener (9:00am-9:00pm)

Fel arfer ni fydd unrhyw addysgu wedi'i drefnu ar brynhawn dydd Mercher i'ch galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol.

  • Dydd Llun (9:00am-9:00pm)
  • Dydd Mawrth (9:00am-9:00pm)
  • Dydd Mercher (9:00am-9:00pm)
  • Dydd Iau (9:00am-9:00pm)
  • Dydd Gwener (9:00am-9:00pm)