Aerial photo of Treforest_25503

Cwestiynau Cyffredin

Myfyrwyr y DU: Bydd amserlenni sefydlu ar gael yn eich calendr Outlook PDC o 1 Medi 2023.

Myfyrwyr Rhyngwladol Cyn-gofrestred: Bydd Amserlenni Sefydlu ar gael yn eich calendr Outlook PDC o 11 Medi 2023.

I gael mynediad i'ch amserlen addysgu, mae'n rhaid eich bod wedi sefydlu eich cyfrif TG PDC a chwblhau'r broses ymrestru ar-lein. Yna gallwch weld eich amserlen yn eich calendr Outlook PDC.

Gallwch weld eich amserlen fesul diwrnod, wythnos neu fis. Bydd eich amserlen yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ynghylch ble a phryd y bydd eich addysgu yn digwydd.

Dylai eich amserlen edrych rhywbeth fel hyn, ond gall fod yn wahanol yn dibynnu ar y ddyfais rydych chi'n ei defnyddio:

Timetable

Gallwch gael mynediad at eich calendr Outlook PDC trwy hafan UniLife trwy ddewis ‘Teaching Timetable’ neu drwy fynd i wefan Outlook.

Mae gwybodaeth am sut i osod a chyrchu Outlook ar gyfrifiaduron bwrdd gwaith neu liniadur a dyfeisiau iOS ac Android ar gael yma.

Sylwch y gall gymryd hyd at 2 ddiwrnod gwaith ar ôl i chi ymrestru i'ch amserlen ymddangos yn eich calendr Outlook. Os ydych wedi ymrestru dros 24 awr yn ôl a'ch bod yn dal i fethu gweld eich amserlen cysylltwch â ni drwy'r Ardal Gyngor Ar-lein.

Yn anffodus, mae argaeledd yr amserlenni ar gyfer y cyrsiau a ddechreuodd ym mis Chwefror 2023 wedi'i aildrefnu. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd gan hyn. Byddwch yn cael mynediad at eich amserlen bersonol o ddydd Mawrth, 12fed o Fedi 2023 ymlaen.

Rydym am sicrhau eich bod ym mharod ar gyfer y tymor nesaf ac rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd. Gwnaed yr addasiad hwn i sicrhau cywirdeb ac ansawdd eich amserlen.

Dilëwch Outlook yn llwyr o'ch dyfais. Ailosodwch Outlook a mewngofnodi eto gan ddefnyddio'ch cyfrif TG PDC.

Os yw eich amserlen addysgu yn dangos amseroedd gwahanol i'r disgwyl, gwiriwch fod y ddyfais rydych chi'n ei defnyddio i gael mynediad i'ch amserlen wedi'i gosod i'r parth amser cywir.

Cyfarwyddiadau ar sut i osod eich parth amser:

Byddwch yn ymwybodol efallai na fydd bob amser yn bosibl newid grwpiau gan y gallai hyn gael effaith ar amserlenni addysgu myfyrwyr eraill.

Os ydych yn dymuno newid grwpiau dylech drafod hyn yn gyntaf gyda'ch tiwtor personol. Os byddant yn cymeradwyo newid, byddant yn rhoi gwybod i'r Gwasanaethau Amserlennu a fydd wedyn yn diweddaru eich amserlen.

Os oes gennych gwestiwn nad ydych wedi gallu dod o hyd i'r ateb iddo, cysylltwch â ni drwy'r Ardal Gyngor Ar-lein.