Mae'r canlynol yn newidiadau allweddol i reoliadau gwaith achos myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23.
- Newidiadau i'r geiriad er mwyn eglurdeb (3.3, 3.5 / 4.1, 4.5 / 6.10 / 7.2, 7.3, 7.11 / 8.1)
- Eglurhad bod cyfeiriadau at ‘brentis’ drwy gydol y weithdrefn yn cyfeirio at brentis/myfyriwr Plismona Gweithredol ar gwrs plismona (1.3, 1.4)
- Cynnwys adran ar ddiben Cytundebau Dim Cyswllt (2.15)
- Cynnwys adran ar gyfrifoldeb am benderfynu ar y weithdrefn briodol i'w dilyn (2.16)
- Egluro gallu myfyriwr i gael person cymorth/cynrychiolydd cyfreithiol cymwys mewn cyfarfodydd a gwrandawiadau (3.7-3.9)
- Diwygio'r cyfeiriadau o'r Weithdrefn Ffitrwydd i Astudio at y Weithdrefn Cymorth i Astudio o ganlyniad i newidiadau arfaethedig i'r gyfres hon o reoliadau a gweithdrefnau (3.11 / 6.16)
- Cynnwys datganiad yn cadarnhau y gellir ystyried diwygiadau i gosbau a'u cymhwyso fel addasiad rhesymol yn dibynnu ar anghenion unigol y myfyriwr (4.1)
- Eglurhad y bydd nodyn o unrhyw gosb ar lefel 1 y weithdrefn yn cael ei gadw ar gofnod y myfyriwr (5.6)
- Eglurhad y gall y Brifysgol benderfynu cyflogi ymchwilydd arbenigol o'r tu allan i'r Brifysgol mewn rhai amgylchiadau (6.11)
- Eglurhad y gall y Brifysgol ymestyn yr amserlen ar gyfer cynnull Pwyllgor Disgyblu'r Brifysgol mewn amgylchiadau eithriadol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) lle mae myfyriwr wedi gofyn am gynrychiolaeth gyfreithiol (6.21)
Dylid dehongli rolau'r Brifysgol, lle nodir, fel y rôl neu'r rôl gyfatebol at ddibenion cymhwyso'r weithdrefn