Gall Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (AI)
Gall Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (AI), a elwir hefyd yn Fodelau Iaith Mawr (LLMs), gynhyrchu cynnwys amlfodd yn seiliedig ar ysgogiadau dynol ac maen nhw’n cael effaith sylweddol ar y maes addysg. Mae datblygiad cyflym offer, megis ChatGPT, yn cyflwyno heriau sylweddol o ran asesu a chynnal uniondeb academaidd, ond maen nhw hefyd yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i gyfoethogi a phersonoli profiadau dysgu myfyrwyr.
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi ymrwymo i drosoli AI cynhyrchiol er budd myfyrwyr a staff, ac mae'n hyrwyddo defnydd teg, moesegol, proffesiynol a chyfrifol o offer AI cynhyrchiol. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer dyfodol sy'n gynyddol alluog i AI ac mae'n cydnabod rhuglder digidol fel nodwedd allweddol i raddedigion PDC.
Mae gan y Brifysgol ganllawiau llym ar ymddygiad myfyrwyr ac uniondeb academaidd. Mae'r rhain yn pwysleisio bod yn rhaid i fyfyrwyr fod yn awduron eu gwaith eu hunain. Nid yw cynnwys a gynhyrchir gyda llwyfannau AI cynhyrchiol, megis ChatGPT, heb ddull datgan cymeradwy a/neu gymeradwyaeth academaidd ymlaen llaw, yn cynrychioli gwaith gwreiddiol y myfyriwr ei hun felly gellid ei ystyried yn fath o gamymddwyn academaidd i'w drin o dan weithdrefnau Gamymddygiad Academaidd y Brifysgol.
Anogir myfyrwyr i gydweithio â’n staff i gynnal uniondeb academaidd ein dyfarniadau a chynnal gwerthoedd craidd y Brifysgol o fod yn Broffesiynol, Ymatebol, Creadigol, Ysbrydoledig a Chydweithredol sydd wrth galon ein cymuned.
Bydd y Brifysgol yn parhau i fonitro datblygiadau AI cynhyrchiol ac mae wedi ymrwymo i sicrhau bod myfyrwyr a staff yn cael eu cefnogi gan arweiniad wrth i'r dechnoleg hon ddatblygu.
Rheoliadau Trefniadau Eithriadol
Yn unol â Rheoliadau'r Brifysgol ar gyfer Cyrsiau a Addysgir, rhoddwyd y Rheoliadau Trefniadau Eithriadol (Adran 7) ar waith ar 15 Mai 2023. Cafodd y rhain eu diweddaru a'u cymeradwyo gan y Bwrdd Academaidd ym mis Ebrill 2023. Mae hyn er mwyn galluogi Byrddau Asesu i bennu canlyniadau modiwlau, penderfyniadau dilyniant a dyfarniadau, lle bynnag y bo modd, gan ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael.
Ar gyfer myfyrwyr PDC sydd wedi dechrau astudiaethau er 2013. Gellir dod o hyd i gysylltiadau i fersiynau blaenorol o'r Rheoliadau ar gyfer Cyrsiau a Addysgir hefyd trwy ddilyn y cyswllt isod.