Er
mwyn cyflawni ein dyletswyddau noddi Haen 4, rhaid i Brifysgol De Cymru
ymgymryd â phrosesau a gweithdrefnau penodol wrth gofrestru myfyrwyr
rhyngwladol nad ydynt yn rhan o'r UE. Er mwyn sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn
ddiogel, ein prif amcan yw sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i ddiogelu ein
Trwydded Noddi Haen 4 ac felly statws mewnfudo ein myfyrwyr rhyngwladol nad
ydynt yn yr UE.
Mae pob myfyriwr sy'n cael ei noddi gan y Brifysgol o
dan Haen 4 yn destun monitro presenoldeb. Os ydych chi'n fyfyriwr sy'n cael ei
noddi gan y Brifysgol o dan Haen 4, bydd disgwyl i chi sganio'ch olion bysedd
bob 7 diwrnod. Rhaid i chi sganio'ch olion bysedd gan ddefnyddio'r sganiwr
olion bysedd ar eich campws priodol.*
Mae myfyrwyr rhyngwladol nad ydynt yn rhan o'r UE,
sydd wedi datgan mai eu prif fwriad yn y DU yw mynychu cwrs astudio amser llawn
a gyflwynir gan Brifysgol De Cymru, wedi cael eu noddi gan y Brifysgol o dan mewnfudo
Haen 4. I'r perwyl hwn, mae angen monitro presenoldeb pob myfyriwr rhyngwladol
o'r tu allan i'r UE, sy'n astudio ar fisa Haen 4, er mwyn i'r Brifysgol fodloni
ei rhwymedigaethau noddi.
Os ydych chi'n cael
trafferth mynd i'r Brifysgol, trafodwch hyn gyda'ch Ardal Gynghori ar y Campws
fel na fydd eich statws mewnfudo mewn perygl.
Lleoliad y dyfeisiau adnabod olion bysedd:
Campws Caerdydd – Ardal Gynghori, ATRiUM
Campws Glyn-taf - Prif Gynteddau Elaine Morgan ac adeiladau Alfred Russel Wallace
Campws Casnewydd - Llyfrgell, Llawr B
Campws Trefforest -
Swyddfa Ymchwil i Raddedigion, Prif Gynteddau adeiladau Glyn-nedd a Thŷ
Crawshay, a llawr cyntaf adeilad Cymorth Myfyrwyr a Gwasanaethau Llyfrgell.
* Os ydych chi'n fyfyriwr Ceiropracteg gallwch sganio'ch olion bysedd ar Gampws Glyn-taf neu Trefforest.
Os ydych chi'n
fyfyriwr yn y Parc Chwaraeon bydd gofyn i chi lofnodi taflen bresenoldeb, sydd
ar gael wrth y ddesg flaen. Yna rhoddir y wybodaeth hon yn y system ar eich
rhan.