Mae'r Brifysgol yn cydnabod yr angen i ymateb yn briodol i
sefyllfaoedd lle gallai arwyddion gweladwy o salwch, anawsterau iechyd meddwl,
cyflwr seicolegol, personoliaeth neu emosiynol gael effaith niweidiol iawn ar
weithrediad myfyrwyr unigol ac ar lesiant pobl eraill o'u cwmpas. Gall hyn
hefyd gynnwys arwyddion o radicaleiddio. Mae'r rheoliadau Addasrwydd i Astudio
yn amlinellu'r gweithdrefnau a'r cymorth sydd ar gael i staff a myfyrwyr pan
fydd myfyriwr yn mynd yn sâl ac / neu'n peri risg iddo'i hun a / neu eraill.
Mae rheoliadau blynyddoedd blaenorol ar gael ar gais gan yr Uned Gwaith Achos Myfyrwyr. Anfonwch e-bost at: [email protected]