Mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb i sicrhau bod myfyrwyr sy'n astudio ar rai cyrsiau yn addas i fod yn gymwys yn eu proffesiynau priodol, waeth a yw eu perfformiad yn dda mewn asesiadau a’i peidio a pheidio cyflawni trosedd benodol. Gellir asesu addasrwydd i ymarfer myfyriwr am nifer o resymau, er enghraifft, problem sy'n gysylltiedig â chyffuriau / alcohol, salwch meddwl neu unrhyw gyflwr neu anhrefn a fyddai'n cael effaith andwyol ar berfformiad y myfyriwr. Mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb i ddelio â myfyrwyr o'r fath i sicrhau nad ydynt yn gymwys i ymarfer mewn proffesiwn pan fernir nad ydynt yn addas i wneud hynny. Gall hyn hefyd fod yn berthnasol i fyfyrwyr eraill sy'n gweithio ar gyfer cymwysterau proffesiynol, er enghraifft mewn proffesiynau eraill sy'n gysylltiedig â meddygaeth.