Camymddygiad Academaidd

Mae deall sut i ddefnyddio gwaith ysgolheigion eraill, gan gynnwys cyfoedion, i ddatblygu eich dealltwriaeth eich hun o bwnc yn sgil broffesiynol bwysig. Mae'r Brifysgol yn disgwyl i chi ddilyn confensiynau academaidd proffesiynol. Nid yw byth yn dderbyniol defnyddio geiriau pobl eraill na'u hallbwn creadigol (boed wedi eu cyhoeddi neu heb eu cyhoeddi, gan gynnwys deunydd o'r rhyngrwyd) heb gydnabyddiaeth benodol. Ni fyddai gwneud hynny yn cael ei ystyried yn arwydd o barch ond fel Camymddygiad Academaidd. Yn ogystal, nid yw'n dderbyniol i chi gyflwyno gwaith yr ydych naill ai wedi ei dendro neu ei brynu, naill ai ‘oddi ar y silff’ neu wedi'i ysgrifennu'n benodol, a'i gyflwyno fel eich gwaith eich hun, gelwir hyn yn twyllo contract.

Mae'r Brifysgol yn cymryd achosion o gamymddwyn academaidd yn ddifrifol iawn ac mae'n ceisio sicrhau eu bod yn cael eu trin yn effeithlon ac yn briodol. Dull y Brifysgol o ymdrin â chamymddwyn academaidd yw datblygu dysgu a dealltwriaeth, heb ragfarn, yn dibynnu ar ddifrifoldeb y drosedd. Edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin - Camymddygiad Academaidd.


Mae Uniondeb Academaidd yn sylfaenol wrth gynnal y ‘gymuned ddysgu’ o fewn y Brifysgol, lle mae disgwyl i fyfyrwyr a staff gynnal ymddygiad academaidd a phroffesiynoldeb o safon uchel, yn seiliedig ar gwrteisi, gonestrwydd a pharch at ei gilydd. Mae'r canllawiau isod yn manylu ar bwysigrwydd Uniondeb Academaidd, sut y gallwch ei gynnal a sut i osgoi cyflawni Camymddwyn Academaidd.

Datganiad Uniondeb Academaidd i Fyfyrwyr

Mae cyngor ac arweiniad pellach ar uniondeb academaidd a chamymddwyn academaidd ar gael gan eich tiwtoriaid modiwl, Undeb y Myfyrwyr a’r Gwasanaeth Datblygu Myfyrwyr a Sgiliau Astudio.

Gweithdrefn siart llif

Mae rheoliadau blynyddoedd blaenorol ar gael ar gais gan yr Uned Gwaith Achos Myfyrwyr. Anfonwch e-bost at: [email protected]

Dogfennau Pellach

  • Ffurflen Camymddygiad Academaidd Tybiedig Cymraeg | Saesneg 
  • Taflen barhad ar gyfer Ffurflen Camymddygiad Academaidd Tybiedig Cymraeg | Saesneg 
  • Gwelwch Annex 1 o'r Rheoliadau a Gweithdrefn Camymddygiad Academaidd 2021-22 am y Tariff Cosbau sm Raddau Addysgu
  • Tariff Cosbau am Raddau Ymchwil Cymraeg | Saesneg 

Os ydy aelod academaidd o staff yn dymuno codi honiad  camymddygiad academaidd tybiedig, danfonwch Ffurflen Camymddygiad Academaidd Tybiedig gyda'r gwybodaeth a'r tystiolaeth anghenrheidiol i'r tîm canolog Gwaith Achos Myfyrwyr - Camymddygiad Academaidd:

Cais am Adolygiad

  • Ffuflen Gais am Adolygiad o  Benderfyniad Camymddygiad Academaidd Cymraeg | Saesneg 
  • Nodiadau Cyfarwyddyd ar gyfer Ffurflen Gais am Adolygiad o Benderfyniad Camymddygiad Academaidd Cymraeg | Saesneg 
  • Ffurflen Caniatâd Tystiolaeth Trydydd Parti Cymraeg | Saesneg 

Fe ddylai myfyrwyr danfon eu Ffurflen Gais am Adolygiad o Benderfyniad Camymddygiad Academaidd at [email protected]

Mae'r canlynol yn newidiadau allweddol i reoliadau gwaith achos myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23.

  • Diwygiadau i'r geiriad at ddibenion eglurdeb (A1 1.2, 1.3, 1.4 / A2 2.2, 2.5, 2.9, 2.11, 2.12, 2.14, 2.15 / A3 3.1 / A4 4.2, 4.6, 1.5.8 / A3 3.1 / A4 4.2, 4.6, 1.4.4 / A2 2.2, 2.5, 2.9, 2.11, 2.12, 2.14, 2.15 / A3 3.1 / A4 4.2, 4.6, 1.4.4 / A3 8.2 / B2 2.1-2.7 / B3 3.1 / B4 4.1 / B4 4.3, 4.4 / B5 5.1, 5.4 / B6 6.4, 6.8, 6.9, 6.11 / B8 8.1)
  • Eglurhad na fydd myfyrwyr sy'n adrodd yn cael eu hysbysu a yw honiad yn cael ei godi ai peidio ac na fyddant yn cael gwybod am unrhyw ganlyniad posibl o dan y weithdrefn (A2 2.3)
  • Arfer academaidd gwael i'w drin yn lleol, ac o ganlyniad bydd pob cyfeiriad o hyn mewn perthynas â'r broses ffurfiol yn cael ei ddileu (A2 2.3, 2.4)
  • Cynnwys adran yn nodi y bydd honiadau yn erbyn aelod o staff o gynorthwyo myfyriwr i gyflawni trosedd academaidd neu werthu gwaith i fyfyrwyr eraill neu drydydd parti yn cael eu hystyried trwy'r Weithdrefn Disgyblu ar gyfer Staff (A4 4.5)
  • Ychwanegu ‘myfyrwyr cyflogedig’ pan gyfeirir at brentisiaid i egluro y bydd y ddau gategori o fyfyrwyr yn dilyn yr un prosesau mewn perthynas â hysbysu eu cyflogwyr (A1 1.2 / A2 2.7, 2.15 / B4 4.4 / B5 5.4 / B6 6.11)
  • Cynnwys ‘ôl-raddedig’ mewn cyfeiriadau at fyfyrwyr ymchwil drwy gydol y ddogfen
  • Ychwanegu gwybodaeth bellach mewn perthynas â chyngor a chymorth i fyfyrwyr (B1 1.1-1.3)
  • Egluro gallu myfyriwr i gael person cymorth/cynrychiolydd cyfreithiol cymwys mewn cyfarfodydd a gwrandawiadau (B1 1.6-1.8)
  • Diwygio aelodaeth y Bwrdd Adolygu o ‘dri’ i ‘bedair’ a benodir gan y Bwrdd Academaidd, er mwyn sicrhau cydraddoldeb ar draws gweithdrefnau eraill (B6 6.10)
  • Cynnwys cyfeiriad at y Rheoliadau ar gyfer Cyrsiau a Addysgir (Atodiad 1)

Sylwch fod rhanddirymiad i'r Weithdrefn Camymddwyn Academaidd 2021-2022 ar gyfer pob myfyriwr UNICAF sy'n astudio graddau PDC. Gweler yma am fanylion pellach.

 

Dylai tiwtoriaid UNICAF ddefnyddio’r fersiwn hon o Ffurflen Honiad o Gamymddwyn Academaidd UNICAF

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) bellach wedi disodli'r Ddeddf Diogelu Data. Mae eglurhad o sut y bydd y Brifysgol yn defnyddio eich data ar gael yma ac yn y Cynllun Cyfathrebu uchod. Noder, yn unol â Rheoliadau GDPR, na dderbynnir unrhyw dystiolaeth ategol trydydd parti oni bai bod Ffurflen Ganiatâd Trydydd Parti wedi'i llenwi gyda hi.

Enghreifftiau

Enghreifftiau o gamymddygiad academaidd:

  • Llên-ladrad - pan fydd myfyrwyr yn cymryd gwaith neu syniadau rhywun arall a honni mai eu gwaith neu eu syniadau eu hunain ydynt.  
  • Twyllo - pan fydd myfyrwyr yn gweithredu’n anonest neu’n annheg cyn, yn ystod neu ar ôl arholiad neu mewn prawf dosbarth er mwyn ennill mantais neu gynorthwyo myfyriwr arall i wneud hynny.
  • Twyllo dan gontract - pan fydd myfyrwyr yn prynu traethawd neu aseiniad.
  • Ffugio - pan fydd myfyrwyr yn ffugio gwybodaeth neu ddamcaniaethau ac yn eu defnyddio mewn asesiad.
  • Ailgylchu - pan fydd myfyrwyr yn cyflwyno darn o waith mewn un cyd-destun ac yna’n ei ddefnyddio eto mewn cyd-destun arall.
  • Cydgynllwyno - pan fydd myfyrwyr yn gweithio gyda’i gilydd ar aseiniad unigol ac yn cyflwyno’r gwaith fel eu gwaith eu hunain.

Gellir ddarganfod mwy o wybodaeth ar enghreifftiau o gamymddygiad academaidd yma Cymraeg | Saesneg