Amgylchiadau Esgusodol

Os ydych chi'n profi amgylchiadau a allai effeithio ar eich gallu i berfformio mewn asesiadau, efallai y gallwch wneud cais am Amgylchiadau Esgusodol. Egwyddor allweddol y rheoliadau hyn yw darparu cydraddoldeb i bob myfyriwr mewn perthynas â'r asesiadau y mae'n ofynnol iddynt eu cyflawni yn ystod eu cwrs. Nod y Brifysgol yw sicrhau nad yw myfyriwr sydd ag amgylchiadau esgusodol profedig o dan anfantais annheg o ganlyniad; ar yr un pryd, ni fydd myfyrwyr ag amgylchiadau esgusodol â mantais anghyfartal dros fyfyrwyr eraill.

Am gopïau o'r Ffurflen Amgylchiadau Esgusodol a'r canllawiau, cysylltwch â'r Ardal Gynghori ar eich campws neu ewch i’r Ardal Gynghori Ar-lein (Advice Zone Online).


Mae rheoliadau blynyddoedd blaenorol ar gael ar gais gan yr Uned Gwaith Achos Myfyrwyr. Anfonwch e-bost at: [email protected]

  • Ffurflen Gais am Adolygiad o Benderfyniad Amgylchiadau Esgusodol/ Ohirio Astudiaethau Cymraeg | Saesneg
  • Nodiadau Canllaw ar gyfer Ffurflen Gais am Adolygiad o Benderfyniad Amgylchiadau Esgusodol/ Ohirio Astudiaethau Cymraeg | Saesneg
  • Gweithdrefnau ar gyfer ymdrin ag Amgylchiadau Esgusodol yng Nghyfnod Adolygu Saesneg | Cymraeg

Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddodd Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol dros Addysg Uwch (OIA) fframwaith arfer da newydd ar ‘Ceisiadau am Ystyriaeth Ychwanegol’ (Amgylchiadau Esgusodol). Yn dilyn hynny, adolygwyd a diwygiwyd Rheoliadau a Gweithdrefn Amgylchiadau Esgusodol y Brifysgol i ystyried y fframwaith a'r diwygiadau newydd a gymeradwywyd trwy strwythurau trafod y Brifysgol.

  • Eglurder ynghylch nifer yr hawliadau hunanardystio a fydd yn arwain at fonitro/gweithredu, h.y., ‘mwy na dau’ (B4.4 a 9.5).
  • Eglurder ynghylch sut y bydd mwy na dau hawliad yn cael eu monitro a sut y gellir cyfeirio myfyrwyr at weithdrefnau eraill (B4 4.5).
  • Tynnu'r cap ar y nifer o weithiau y gall myfyriwr hunanardystio a gwella'r gweithdrefnau o amgylch hunanardystio (A2.5-2.8 a B4.1-4.7).
  • Diwygiadau i’r Polisi Ffit i Sefyll a chyflwyno’r derminoleg o ‘dynnu’n ôl ddatganiad ffit i sefyll’ yn unol â chanllawiau OIA (A2.11 - 2.13).
  • Diwygiadau i'r Weithdrefn ar ddatganiadau ffit i sefyll a thynnu’n ôl ddatganiad ffit i sefyll (B6).
  • Diwygiadau i'r rhestr nad yw'n gynhwysfawr o'r hyn y byddai'r Brifysgol fel arfer yn ei ystyried yn amgylchiadau esgusodol (B1.1).
  • Diwygiadau i'r enghreifftiau o'r hyn na fydd yn cael ei ystyried yn amgylchiadau esgusodol (B1.2).
  • Eglurhad o fathau o hawliadau sy’n ‘hwyr’ neu’n rhai ‘ôl-fwrdd’ (B2.6).
  • Eglurhad ynghylch amseriad hawliadau y gellir eu cyflwyno (B2.4).
  • Newidiadau i'r enghreifftiau o'r hyn a fyddai'n cael ei ystyried yn dystiolaeth dderbyniol (B3.4).
  • Diwygiad i'r geiriad ar y camau gweithredu a wnaed gan y Cofrestrydd Academaidd ar gyfer digwyddiadau neu faterion mawr sy'n benodol i'r brifysgol gyfan, y campws neu'r gyfadran (B5.1).
  • Eglurhad bod myfyrwyr yn gallu defnyddio'r weithdrefn i wneud hawliad unigol os yw amgylchiadau penodol yn golygu eu bod yn elwa llai nag eraill o gamau gweithredu cytunedig gan y Cofrestrydd Academaidd ar gyfer nifer fawr o fyfyrwyr (B5.2).
  • Ychwanegu rhai cyflyrau â therfyn amser fel rhai sy'n briodol i'w hystyried o dan yr hawliadau am gyflyrau hirsefydlog (B7.6).
  • O dan Adran B9 Canlyniadau: eglurhad, lle mae'r dystiolaeth feddygol a ddarperir, neu amlder hawliadau yn codi pryderon ynghylch ffitrwydd i ymarfer myfyriwr, gellir cyfeirio eu hachos i'w ystyried o dan y Weithdrefn Ffitrwydd i Ymarfer (B9.4). 
  • O dan Adran B9 Canlyniadau: pwynt ychwanegol y gallai hawliadau lluosog sy'n defnyddio hunanardystio arwain at adolygu sefyllfa'r myfyriwr ac efallai y bydd angen awgrymu/cymryd camau pellach.
  • Diwygiad i gynnwys ‘rheoliadau llwybr myfyrwyr’ newydd yn ogystal â ‘Haen 4’ (B9 a B10).
  • Mân ddiweddariadau i wybodaeth atgyfeirio ar gyfer gwasanaethau cymorth (B9.9).
  • Ychwanegu dwy sail arall dros adolygu (B11.1).

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) bellach wedi disodli'r Ddeddf Diogelu Data. Mae eglurhad o sut y bydd y Brifysgol yn defnyddio eich data ar gael yma ac yn y Cynllun Cyfathrebu uchod. Noder, yn unol â Rheoliadau GDPR, na dderbynnir unrhyw dystiolaeth ategol trydydd parti oni bai bod Ffurflen Ganiatâd Trydydd Parti wedi'i llenwi gyda hi.