Pan fyddwch chi'n cofrestru fel myfyriwr ym Mhrifysgol De Cymru, rydych chi'n cytuno i gydymffurfio â Chod Ymarfer Myfyrwyr a holl reoliadau a gweithdrefnau eraill y Brifysgol. Mae rheoliadau a gweithdrefnau'r Brifysgol yn amlinellu ein hymagwedd at ddysgu, addysgu ac asesu yn ogystal â materion ymddygiad academaidd ac anacademaidd a chwynion ac apeliadau, ac fe’u cynllunir i sicrhau bod y Brifysgol yn gweithredu'n deg ac yn gyson mewn perthynas â phob myfyriwr.
Defnyddiwch y weithdrefn hon i apelio yn erbyn penderfyniad Bwrdd Asesu
Enghreifftiau o gamymddwyn academaidd ac ymagwedd y Brifysgol at y
drosedd hon
Mae pob myfyriwr sy'n cael ei noddi gan y Brifysgol o dan Haen 4 yn
destun monitro presenoldeb
Os ydych chi'n profi amgylchiadau a allai effeithio ar eich gallu i
berfformio mewn asesiadau, efallai y gallwch wneud cais am Amgylchiadau
Esgusodol
Rhaid i fyfyrwyr sy'n astudio ar rai cyrsiau fod yn addas i fod yn gymwys yn eu proffesiynau priodol
Gweithdrefnau a chymorth sydd ar gael pan fydd myfyriwr yn mynd yn sâl
neu'n peri risg iddo'i hun a / neu eraill
Amgylchiadau eithriadol a / neu annisgwyl sy'n gofyn i
chi fod yn absennol o'ch astudiaethau
Pan fydd gennych bryderon am ddarpariaeth eich cwrs academaidd a / neu
wasanaethau cysylltiedig
Disgwylir i fyfyrwyr gadw at bolisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol bob
amser
Mae'r Uned Gwaith Achos Myfyrwyr wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth cynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Rydym yn cydnabod y gall ymgysylltu â gweithdrefnau gwaith achos myfyrwyr (Apeliadau, Cwynion ac ati) fod yn amser llawn straen. Mae'r canllawiau isod yn manylu ar nifer y ffyrdd y gall y Brifysgol gefnogi'r rheini ag anabledd, trwy ei gweithdrefnau gwaith achos.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth teg, hygyrch a chyson i'w holl fyfyrwyr, yn enwedig y rhai sy'n cyrchu gweithdrefnau gwaith achos myfyrwyr. Fodd bynnag, mae gennym hefyd ddyletswydd gofal i'n staff ac o ganlyniad, ni fyddwn yn goddef ymddygiad yr ystyrir ei fod yn annerbyniol neu'n afresymol. Mae'r canllawiau isod yn manylu ar sut rydym yn rheoli'r lleiafrif o fyfyrwyr y mae eu gweithredoedd yr ydym yn eu hystyried yn annerbyniol a / neu'n afresymol ac yn rhwystro gallu staff i gyflawni gweithdrefnau'r Brifysgol.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: Gwybodaeth a Chymorth gydag Asesiadau | Prifysgol De Cymru
Camau i'w Cymry yn Ystod Pendemig Covid-19 CAMAU I'W CYMRYD YN YSTOD PANDEMIG COVID-19
Mae Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol (OIA) yn gorff annibynnol a sefydlwyd i adolygu cwynion myfyrwyr. O dan Ddeddf Addysg Uwch 2004 mae Prifysgol De Cymru yn tanysgrifio i'r cynllun annibynnol ar gyfer adolygu cwynion myfyrwyr (gan gynnwys cwynion i benderfyniadau ynghylch apeliadau a chamymddwyn gan fyfyrwyr).