Telerau ac Amodau Cofrestru ar Gwrs PDC 2024/25

Cyfrinachedd a diogelu data

Bydd gwybodaeth bersonol a gyflwynwyd gennych a manylon a gafwyd o ffynonellau eraill mewn perthynas â’ch astudiaethau yn cael eu cadw’n ddiogel ac yn cael eu defnyddio gan Brifysgol De Cymru (y Brifysgol) yn ystod y cyfnod cofrestru ac ar ôl i chi adael y Brifysgol am sawl pwrpas yn cynnwys gweinyddu pob cofnod academaidd, gwasanaethau cefnogi myfyrwyr (yn cynnwys rhai’n ymwneud â iechyd a lles), gwasanaethau gyrfaoedd a gweithredu Rheoliadau a Gweithdrefnau’r Brifysgol. Yn ogystal defnyddir y wybodaeth ar gyfer ymchwil a chrynhoi data a gweinyddiaeth Alumni. Mae hysbysiad preifatrwydd llawn y Brifysgol i’w gael yn Atodiad A.

I’ch cefnogi ar eich taith ddysg, byddai’r Brifysgol yn dymuno defnyddio’r wybodaeth rydych wedi’i chyflwyno ynglŷn â’ch ethnigrwydd fel rhan o’i Rhaglen Dadansoddi Dysgu. Bydd y wybodaeth hon yn help i alluogi’r Brifysgol i wella ei gwasanaethau dysgu a chefnogaeth i chi ac i fyfyrwyr eraill. Mae’r manylion llawn ar gael yn ein ‘Llyfryn Gwybodaeth Dadansoddi Dysgu’.


Deddf Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2010

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd ddysgu gynhwysol. Nid ydym yn gwahaniaethu’n annheg, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn erbyn aelodau o’n cymuned ar sail y Nodweddion Gwarchodedig a amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. 


Myfyrwyr rhyngwladol ac o’r Undeb Ewropeaidd sy'n astudio yn y DU

Rhaid i fyfyrwyr sy'n cael eu noddi o dan fisa Llwybr Myfyriwr/Haen 4 hefyd gydymffurfio â'r amodau a/neu'r cyfrifoldebau a osodir gan eu fisa a chydweithredu â Phrifysgol De Cymru i gyflawni ei rhwymedigaethau cydymffurfio llwybr Myfyriwr/Haen 4. Datgelir gwybodaeth myfyrwyr i’r Swyddfa Gartref/Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI). Gallai hyn, er enghraifft, fod ynghylch cais mewnfudo a wnaethoch neu ynghylch eich presenoldeb a'ch ymgysylltiad, neu geisiadau am wybodaeth, gan gynnwys mewn cysylltiad ag atal neu ganfod trosedd, gweinyddu gweithio'n anghyfreithlon a/neu ddal neu erlyn troseddwyr mewnfudo.

Os ydych chi'n ddarostyngedig i reolaeth mewnfudo a bod gennych fath gwahanol o fisa sy'n caniatáu i chi astudio yn y Brifysgol, rhaid i chi sicrhau eich bod chi'n deall ac yn cadw at yr amodau sydd ynghlwm â’ch fisa, a’ch bod yn cydymffurfio ag unrhyw newidiadau y bydd y Swyddfa Gartref/Fisâu a Mewnfudo y DU yn eu gwneud mewn perthynas â'ch math chi o fisa.

Ac eithrio cyrsiau sy’n gyfan gwbl ar-lein, o 30 Mehefin 2021 ymlaen, mae'n ofynnol i fyfyrwyr yr UE sydd â statws preswylydd sefydlog, preswylydd cyn-sefydlog neu sydd â chaniatâd mewnfudo UE arall, a myfyrwyr sy'n teithio o'r UE ar fisa ymweld, fod â thystiolaeth bod ganddynt ganiatâd mewnfudo priodol er mwyn ymrestru ac astudio yn y DU.


Cwynion

Mae PDC yn cydnabod bod adegau pan fydd myfyrwyr yn teimlo fod ganddynt achos dros wneud cwyn am wasanaeth y maent wedi’i dderbyn. Mae Rheoliadau Cwynion a Gweithdrefn PDC sydd ar gael https://registry.southwales.ac.uk/academic-registry/rheoliadau-myfyrwyr/cwynion-myfyrwyr/, yn berthnasol i fyfyrwyr yn ystod eu cwrs a hyd at gyfnod o 3 mis ar ôl gadael PDC neu raddio ynddi. Mae modd i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau prifysgol yn Sefydliadau Partneriaid y Brifysgol gael mynediad i Reoliadau Cwynion a Gweithdrefn PDC pan fo’r gwyn yn ymwneud â materion academaidd. Pan fo materion yn gyfrifoldeb i Sefydliadau’r Partneriaid rhaid i fyfyrwyr ddefnyddio Gweithdrefn Gwynion Sefydliad y Partner – mewn achosion o’r fath, dylai myfyrwyr gysylltu â gwasanaethau myfyrwyr yn Sefydiad Partner perthnasol am fanylion.


Digwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth

Mae PDC wedi ymrwymo i ddarparu'r rhaglen astudio o’ch dewis ynghyd â’i gwasanaethau eraill, er hynny, weithiau efallai y byddwn yn cael ein rhwystro rhag gwneud hynny gan ddigwyddiadau y byddai’n rhesymol i’w hystyried y tu hwnt i’n rheolaeth, megis gwaith Duw, tân, ffrwydrad, llifogydd neu drychineb naturiol, gweithredoedd terfysgol, cynnwrf sifil neu gythrwfl, embargos, gwarchae, gosod sancsiynau neu gyfyngiadau teithio rhyngwladol neu genedlaethol, pandemig, epidemig neu ddeddfau neu orchmynion gan lywodraethau. Os bydd ein gallu i ddarparu ein gwasanaeth i chi yn cael ei effeithio gan ddigwyddiad o’r fath, fe wnawn bopeth yn rhesymol o fewn ein gallu i wneud newidiadau o’r fath i’n darpariaeth o wasanaethau fel y gallwn barhau i ddarparu gwasanaeth i chi, er mewn fformat gwahanol neu gan ddefnyddio dull arall o ddarpariaeth. Pan fo’n bosibl i ni wneud hyn, a bod PDC yn ystyried hynny’n rhesymol, ni fydd PDC yn atebol am unrhyw oedi wrth weithredu’r gwasanaethau nac am unrhyw newidiadau a wnaed er mwyn i’r gwasanaethau allu parhau.

Pan fyddwn yn cael ein rhwystro’n llwyr rhag darparu’n gwasanaethau i chi oherwydd digwyddiad o’r fath ac nad ydym yn gallu gwneud unrhyw newidiadau a fyddai’n ein galluogi i barhau, mae’n bosibl y byddwn yn canslo’r rhaglen astudio ac os bydd hynny’n digwydd, byddwn yn ystyried, ar sail lefel y gwasanaeth a dderbyniwyd hyd at ddyddiad y canslo, os oes gennych hawl i unrhyw ad-daliad posibl (naill ai’n llawn neu’n rhannol fel bo’n briodol).

Datganiad Myfyriwr

•         Rwy’n cytuno i barchu a chadw at yr holl reoliadau sy’n gymwys i fyfyrwyr Prifysgol De Cymru fel y’u nodir yn Atodiad B.

•         Rwy’n cytuno i barchu rheoliadau a gweithdrefnau gwaith achos myfyrwyr, fel y’u nodir yn Atodiad C.

•         Rwy’n deall pe bai gennyf fisa, gall fy noddwr ariannol swyddogol ofyn i Brifysgol De Cymru ddarparu canlyniadau fy nghwrs a’m presenoldeb iddo.

•         Rwy’n deall pe bai gennyf fisa Llwybr Myfyriwr/Haen 4 neu fisa arall i fyfyriwr sy’n caniatáu i mi astudio yn unrhyw un o gampysau’r Brifysgol, fod rhaid i mi gydymffurfio â thelerau’r fisa a gofynion yr Awdurdod Mewnfudo ac rwy’n ymwybodol o’m cyfrifoldebau mewnfudo a’r dyletswyddau cadw cofnodion ac adrodd Prifysgol De Cymru fel y’u nodir yn Atodiad D. 

•         Rwy’n deall pe bai’n angenrheidiol ac yn briodol yn ystod neu'n dilyn unrhyw ymchwiliad disgyblu, fod y Brifysgol yn cadw’r hawl i hysbysu corff proffesiynol/allanol perthnasol.

•         Rwy’n cydnabod bod ffioedd dysgu yn ddyledus ar gyfer pob blwyddyn neu gam o’m cwrs. Rwy’n cytuno, pe byddai’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr neu fy noddwyr yn methu talu fy ffioedd, y byddaf yn gyfrifol am dalu’r ffioedd yn llawn ar unwaith a’m bod yn ymwybodol o sancsiynau’r Brifysgol am beidio â thalu.

•         Rwy’n cytuno i barchu a chadw at Bolisi Ffioedd a Rheoli Dyledion y Brifysgol a nodir yn Atodiad E ac rwy’n deall pe byddwn yn tynnu’n ôl o’m cwrs, bydd unrhyw leihad yn y ffioedd yn cael ei weithredu’n unol â’r rheoliadau hyn.

•         O ran cyrsiau sydd angen eu cyfeirio at y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG), rwy’n deall bod angen cliriad digonol er mwyn i mi gael parhau’n gofrestredig ar y cwrs hwnnw.

•         Rwy’n datgan, hyd y gwn i, fod y wybodaeth rwyf wedi’i roi o ran fy nghofrestru yn gywir. Os bydd unrhyw wybodaeth a roddwyd yn anghyflawn neu’n anghywir mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i gymryd camau priodol, a allai gynnwys ymadael.

•         Rwy’n deall fy mod yn ymrwymo i gytundeb wedi’i rwymo mewn cyfraith gyda Phrifysgol De Cymru drwy dderbyn y Telerau ac Amodau.









Prifysgol De Cymru 


Teleri ac Amodau Cofrestru ar Gwrs 2024/25


Hanes y gwelliant

Fersiwn  1.0

Dyddiad   08/08/2024

Lluniwyd gan   Stephen Sharples

Rheswn dros y diwigiad   Creu'r ddogfen