Telerau ac Amodau Cofrestru ar Gwrs PDC 2020/21

Cyfrinachedd a diogelu data

Bydd gwybodaeth bersonol a gyflwynwyd gennych a manylon a gafwyd o ffynonellau eraill mewn perthynas â’ch astudiaethau yn cael eu cadw’n ddiogel ac yn cael eu defnyddio gan Brifysgol De Cymru (y Brifysgol) yn ystod y cyfnod cofrestru ac ar ôl i chi adael y Brifysgol am sawl pwrpas yn cynnwys gweinyddu pob cofnod academaidd, gwasanaethau cefnogi myfyrwyr (yn cynnwys rhai’n ymwneud â iechyd a lles), gwasanaethau gyrfaoedd a gweithredu Rheoliadau a Gweithdrefnau’r Brifysgol. Yn ogystal defnyddir y wybodaeth ar gyfer ymchwil a chrynhoi data a gweinyddiaeth Alumni. Mae hysbysiad preifatrwydd llawn y Brifysgol i’w gael yn Atodiad A.

 I’ch cefnogi ar eich taith ddysg, byddai’r Brifysgol yn dymuno defnyddio’r wybodaeth rydych wedi’i chyflwyno ynglŷn â’ch ethnigrwydd fel rhan o’i Rhaglen Dadansoddi Dysgu. Bydd y wybodaeth hon yn help i alluogi’r Brifysgol i wella ei gwasanaethau dysgu a chefnogaeth i chi ac i fyfyrwyr eraill. Mae’r manylion llawn ar gael yn ein ‘Llyfryn Gwybodaeth Dadansoddi Dysgu’.

 Deddf Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2010

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd ddysgu gynhwysol. Nid ydym yn gwahaniaethu’n annheg, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn erbyn aelodau o’n cymuned ar sail y Nodweddion Gwarchodedig a amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. 

Hyd at 31 Rhagfyr 2020 – Myfyrwyr rhyngwladol nad ydynt o’r UE yn astudio yn y DU

Mae disgwyl i bob myfyriwr sy’n dod i astudio yn ein campysau yn y DU ac sy’n dod o’r tu allan i’r UE gael y canlynol:

·         fisa ddilys sy’n caniatáu iddynt astudio yn y Brifysgol, neu

·         fisa Haen 4, neu fisa o dan y llwybr newydd mewnfudo myfyrwyr y mae disgwyl iddo gael ei lansio ym mis Hydref 2020, a noddir gan y Brifysgol.

 

O 1 Ionawr 2021 – Myfyrwyr rhyngwladol yn cynnwys gwladolion UE/AEE sy’n astudio yn y DU ac yn cyrraedd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2021

Mae disgwyl i bob myfyriwr sy’n dod i astudio yn ein campysau yn y DU ac sy’n dod o’r tu allan i’r UE:

·         gael fisa ddilys sy’n caniatáu iddynt astudio yn y Brifysgol

·         gael fisa Haen 4, neu fisa o dan y llwybr newydd mewnfudo myfyrwyr y mae disgwyl iddo gael ei lansio ym mis Hydref 2020, a noddir gan y Brifysgol

·         fod wedi gwneud cais am y cynllun preswylio’n sefydlog i ddinasyddion yr UE neu wedi gwneud cais ac wedi derbyn statws preswylydd cyn-sefydlog/preswylydd sefydlog.

 

O 1 Ionawr 2021 – Gwladolion UE/AEE sy’n astudio yn y DU ac sy’n ddinasyddion preswyl/a fu’n ddinasyddion preswyl ac sydd heb eto wneud cais preswylio’n sefydlog i ddinasyddion yr UE

·         rhaid i fyfyrwyr yn y categori hwn sicrhau eu bod wedi gwneud cais preswylio’n sefydlog i ddinasyddion yr UE neu’r llwybr newydd mewnfudo myfyrwyr a noddir gan y Brifysgol erbyn 30 Mehefin 2021

·         os bydd myfyriwr yn cwblhau’r cwrs yn PDC erbyn 30 Mehefin 2021, a ddim yn gwneud cais preswylio’n sefydlog i ddinasyddion yr UE, y llwybr newydd i fyfyrwyr, neu ganiatâd mewnfudo addas arall, bydd rhaid iddynt adael yr UE erbyn 30 Mehefin 2021, neu efallai y byddant yn dod i’r categori person yn aros yn hirach.

 Rhaid i fyfyrwyr sy’n cael eu noddi o dan fisa myfyrwyr Haen 4 hefyd gydymffurfio â’r amodau a/neu y cyfrifoldebau a osodir gan eu fisa myfyrwyr a chydweithredu gyda Phrifysgol De Cymru i gyflawni ei rhwymedigaethau cydymffurfio Haen 4. Mae gwybodaeth am fyfyrwyr yn cael ei ddatgelu i Fisâu a Mewnfudo y DU (Y Swyddfa Gartref): gallai hyn fod er enghraifft ynghylch cais mewnfudo a wnaethoch neu ynglŷn â’ch presenoldeb a’ch ymgysylltu, neu geisiadau am wybodaeth, yn cynnwys yn ymwneud ag atal neu ddatrys troseddau, gweinyddu gweithio anghyfreithiol a/neu ddal neu erlyn troseddwyr mewnfudo.

 Personau nad ydynt yn wladolion yr Emiraethau Arabaidd Unedig (EAU) sy’n astudio yng nghampws PDC Dubai

Dylai pob myfyriwr sy’n astudio yn ein campws yn Dubai

•             fod yn berchen ar fisa ddilys sy’n eu caniatáu i astudio yn PDC Dubai.

 Rhaid i fyfyrwyr sy’n astudio yn PDC Dubai hefyd gydymffurfio â’r amodau a/neu y cyfrifoldebau a osodir gan eu fisa myfyrwyr a chydweithredu gyda’r Brifysgol i gyflawni ei rhwymedigaethau cydymffurfio Mewnfudo yr EAU. Mae gwybodaeth am fyfyrwyr yn cael ei ddatgelu i Awdurdodau Mewnfudo yr EAU: gallai hyn fod er enghraifft ynghylch cais am fisa, eich cofrestru gyda PDC Dubai a’ch presenoldeb a’ch ymgysylltu.

 Pandemig Covid-19: Pryderon Iechyd a Diogelwch a Lles

Mae iechyd a diogelwch a lles ein staff a’n myfyrwyr o’r pwys pennaf i PDC. Mae effaith barhaus y pandemig Covid-19 yn golygu fod PDC wedi, ac efallai’n parhau i wneud newidiadau yn y modd y mae’n darparu cyrsiau a gwasanaethau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020/2021 a’r cyrsiau hynny ddylai ddechrau’n fuan yn 2021. Oherwydd y pandemig a’i anian gyfnewidiol efallai y bydd angen i PDC wneud newidiadau o’r fath ar fyr rybudd. 

 Efallai y bydd y dulliau a’r gweithgareddau a weithredir gan PDC dros y flwyddyn i ddod yn wahanol i’r hyn a gyhoeddwyd neu a hysbysebwyd eisoes. Mae PDC yn cadw’r hawl i wneud newidiadau eraill yn ystod y rhaglen astudio os bydd newid o’r fath yn rhesymol angenrheidiol nau yn cael eu cynghori yn sgil materion Iechyd y Cyhoedd, iechyd a diogelwch a lles, neu yn ymateb i Ganllawiau Llywodraeth. Er y bydd PDC yn ymdrechu’n rhesymol i leddfu gymaint â phosib effaith o’r fath ar eich profiad dysg ni all sicrhau na fydd newid yn eich rhaglen astudio nac yn eich profiad dysgu ar y cyfan.

 Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020/2021 a chyrsiau’n dechrau’n fuan yn 2021, bydd PDC yn darparu rhaglenni astudio mewn fformat cyfun; gyda chyfran o’r addysgu a’r dysgu’n cael ei gyfleu’n ddigidol, ac ymhle y mae’n ddiogel i wneud hynny, rhywfaint o addysgu a dysgu’n cael ei gyfleu yn y cnawd, gan ddefnyddio cadw pellter cymdeithasol a/neu fesurau lliniarol a ystyrir yn addas yn unol â Chanllawiau Llywodraeth.

 Mae gwybodaeth gan PDC ynglŷn â’r modd y mae ei chyrsiau a’i gwasanaethau wedi’u newid neu efallai’n cael eu newid oherwydd pandemig Covid-19 ar gael ar wefan PDC: https://www.southwales.ac.uk/apply/blended-learning/ a bydd PDC yn defnyddio pob ymdrech resymol i’ch hysbysu ar y cyfle cyntaf ynghylch newidiadau a allai gael effaith arnoch chi. Drwy gofrestru, rydych yn cadarnhau eich bod yn deall ac yn cytuno â’r trefniadau a ddisgrifir (gweler y ddolen uchod). 

 Os, o ganlyniad i newidiadau perthnasol a wnaed yn unol â’r uchod ar ôl i chi gofrestru, nad ydych bellach am astudio eich cwrs yn ystod 2020/2021, efallai y bydd yn bosibl i chi, o fewn y ffiniau a nodir yng ngweithdrefnau’r Brifysgol, wneud y canlynol:

 a)         trosglwyddo i gwrs arall yn PDC neu ohirio – mae’n bosibl y bydd hyn ond ar gael o fewn cyfnod penodol ar ôl i’ch cwrs gwreiddiol ddechrau, er hynny bydd PDC yn cydweithio â chi i ganfod yr opsiynau sydd ar gael i chi yn unol â’i gweithdrefnau;

b)         gwneud cwyn yn unol â’r isod; neu

c)         gadael eich astudiaethau.

 

Cwynion

Mae PDC yn cydnabod bod adegau pan fydd myfyrwyr yn teimlo fod ganddynt achos dros wneud cwyn am wasanaeth y maent wedi’i dderbyn. Mae Rheoliadau Cwynion a Gweithdrefn PDC sydd ar gael re available yma, yn berthnasol i fyfyrwyr yn ystod eu cwrs a hyd at gyfnod o 3 mis ar ôl gadael PDC neu raddio ynddi. Mae modd i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau prifysgol yn Sefydliadau Partneriaid y Brifysgol gael mynediad i Reoliadau Cwynion a Gweithdrefn PDC pan fo’r gwyn yn ymwneud â materion academaidd. Pan fo materion yn gyfrifoldeb i Sefydliadau’r Partneriaid rhaid i fyfyrwyr ddefnyddio Gweithdrefn Gwynion Sefydliad y Partner – mewn achosion o’r fath, dylai myfyrwyr gysylltu â gwasanaethau myfyrwyr yn Sefydiad Partner perthnasol am fanylion.

 Digwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth

Mae PDC wedi ymrwymo i ddarparu'r rhaglen astudio o’ch dewis ynghyd â’i gwasanaethau eraill, er hynny, weithiau efallai y byddwn yn cael ein rhwystro rhag gwneud hynny gan ddigwyddiadau y byddai’n rhesymol i’w hystyried y tu hwnt i’n rheolaeth, megis gwaith Duw, tân, ffrwydrad, llifogydd neu drychineb naturiol, gweithredoedd terfysgol, cynnwrf sifil neu gythrwfl, embargos, gwarchae, gosod sancsiynau neu gyfyngiadau teithio rhyngwladol neu genedlaethol, pandemig, epidemig neu ddeddfau neu orchmynion gan lywodraethau. Os bydd ein gallu i ddarparu ein gwasanaeth i chi yn cael ei effeithio gan ddigwyddiad o’r fath, fe wnawn bopeth yn rhesymol o fewn ein gallu i wneud newidiadau o’r fath i’n darpariaeth o wasanaethau fel y gallwn barhau i ddarparu gwasanaeth i chi, er mewn fformat gwahanol neu gan ddefnyddio dull arall o ddarpariaeth. Pan fo’n bosibl i ni wneud hyn, a bod PDC yn ystyried hynny’n rhesymol, ni fydd PDC yn atebol am unrhyw oedi wrth weithredu’r gwasanaethau nac am unrhyw newidiadau a wnaed er mwyn i’r gwasanaethau allu parhau.

 Pan fyddwn yn cael ein rhwystro’n llwyr rhag darparu’n gwasanaethau i chi oherwydd digwyddiad o’r fath ac nad ydym yn gallu gwneud unrhyw newidiadau a fyddai’n ein galluogi i barhau, mae’n bosibl y byddwn yn canslo’r rhaglen astudio ac os bydd hynny’n digwydd, byddwn yn ystyried, ar sail lefel y gwasanaeth a dderbyniwyd hyd at ddyddiad y canslo, os oes gennych hawl i unrhyw ad-daliad posibl (naill ai’n llawn neu’n rhannol fel bo’n briodol).

 Datganiad Myfyriwr

•         Rwy’n cytuno i barchu a chadw at yr holl reoliadau sy’n gymwys i fyfyrwyr Prifysgol De Cymru fel y’u nodir yn Atodiad B.

•         Rwy’n cytuno i barchu rheoliadau a gweithdrefnau gwaith achos myfyrwyr, fel y’u nodir yn Atodiad C.

•         Rwy’n deall pe bai gennyf fisa, gall fy noddwr ariannol swyddogol ofyn i Brifysgol De Cymru ddarparu canlyniadau fy nghwrs a’m presenoldeb iddo.

•         Rwy’n deall pe bai gennyf fisa Haen 4 neu fisa arall i fyfyriwr sy’n caniatáu i mi astudio yn unrhyw un o gampysau’r Brifysgol, fod rhaid i mi gydymffurfio â thelerau’r fisa a gofynion yr Awdurdod Mewnfudo ac rwy’n ymwybodol o’m cyfrifoldebau a’r dyletswyddau cadw cofnodion ac adrodd Prifysgol De Cymru fel y’u nodir yn Atodiad D.

•         Rwy’n deall pe bai’n angenrheidiol ac yn briodol yn dilyn unrhyw ymchwiliad disgyblu, fod y Brifysgol yn cadw’r hawl i hysbysu corff proffesiynol/allanol perthnasol.

•         Rwy’n cydnabod bod ffioedd dysgu yn ddyledus ar gyfer pob blwyddyn neu gam o’m cwrs. Rwy’n cytuno, pe byddai’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr neu fy noddwyr yn methu talu fy ffioedd, y byddaf yn gyfrifol am dalu’r ffioedd yn llawn ar unwaith a’m bod yn ymwybodol o sancsiynau’r Brifysgol am beidio â thalu.

•         Rwy’n cytuno i barchu a chadw at Bolisi Ffioedd a Rheoli Dyledion y Brifysgol a nodir yn Atodiad E ac rwy’n deall pe byddwn yn tynnu’n ôl o’m cwrs, bydd unrhyw leihad yn y ffioedd yn cael ei weithredu’n unol â’r rheoliadau hyn.

•         O ran cyrsiau sydd angen eu cyfeirio at y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG), rwy’n deall bod angen cliriad digonol er mwyn i mi gael parhau’n gofrestredig ar y cwrs hwnnw.

•         Rwy’n datgan, hyd y gwn i, fod y wybodaeth rwyf wedi’i roi o ran fy nghofrestru yn gywir. Os bydd unrhyw wybodaeth a roddwyd yn anghyflawn neu’n anghywir mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i gymryd camau priodol, a allai gynnwys ymadael.

•         Rwy’n deall fy mod yn ymrwymo i gytundeb wedi’i rwymo mewn cyfraith gyda Phrifysgol De Cymru drwy dderbyn y Telerau ac Amodau.









   

Prifysgol De Cymru 


Teleri ac Amodau Cofrestru ar Gwrs 2020/21


Hanes y gwelliant

Fersiwn  1.0

Dyddiad   01/08/2020

Lluniwyd gan   Jennifer Lewis

Rheswn dros y diwigiad   Creu'r ddogfen