Mae'n ofynnol i bob myfyriwr gwblhau cofrestriad ar ddechrau pob sesiwn academaidd. Cofrestru yw'r broses ffurfiol o ddod yn fyfyriwr yn y Brifysgol. Mae'r gwasanaeth cofrestru ar-lein yn eich galluogi i gwblhau'r broses hon ar-lein.
Cyn i chi allu cofrestru ar-lein, rhaid i chi wneud cais i astudio'ch cwrs dewisol. Os ydych yn cyrraedd i gofrestru ac nad ydych wedi gwneud cais dilynwch y cyswllt https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/astudio/ lle gallwch wneud a chyflwyno cais i astudio eich cwrs dewisol.
Cysylltwch â ni os ydych chi'n cael trafferth cofrestru.