Gweld eich amserlen

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw arholiadau nac asesiadau wyneb yn wyneb. Bydd sefyllfa arholiadau ac asesiadau’r dyfodol yn cael ei adolygu yn ei dro.

Cyrchwch eich Amserlen Arholiad wedi'i phersonoli Awst 2023 - 

Mai 2024

Cysylltwch a'ch Arweinydd Cwrs i gael ymholiadau yn ymwneud a fformat eich asesiadau neu gefnogaeth ar gyfer Cynlluniau Cymorth Unigol.


Myfyrwyr Coleg Partner

Os ydych yn astudio mewn Coleg Addysg Bellach neu sefydliad arall sydd â chysylltiadau cydweithredol â Phrifysgol De Cymru, bydd eich amserlen arholiadau ar gael yma ar y dyddiad a nodir yn y Cyfnodau Arholiadau a Dyddiadau Allweddol

Gwneir yr holl drefniadau ar gyfer eich arholiad, gan gynnwys y lleoliad, gan eich sefydliad astudio a bydd y wybodaeth hon yn cael ei chyfleu ganddynt.


Newidiadau i amserlenni arholiadau

Unwaith y bydd yr amserlen wedi'i chyhoeddi, efallai y bydd achlysuron pan fydd yn rhaid gwneud newidiadau anorfod.  Os yw hyn yn angenrheidiol, bydd y Tîm Arholiadau, Ardystio a Graddio yn postio eitem newyddion ar UniLife yn eich cynghori i ail-wirio'ch amserlen.

Rydym yn argymell eich bod yn gwirio'ch amserlen yn rheolaidd. Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes angen i chi wneud trefniadau teithio cyn eich arholiadau.

Ni fydd lleoliad eich arholiadau yn cael ei gadarnhau tan tua un wythnos waith cyn y cyfnod arholiadau.  Mae union ddyddiadau ar gael ar Cyfnodau Arholiadau a Dyddiadau Allweddol

Wrth osod yr amserlen arholiadau, nod y Brifysgol yw lleihau nifer y myfyrwyr y disgwylir iddynt eistedd mwy nag un arholiad y dydd neu ar ddiwrnodau olynol. Fodd bynnag, mae hyn weithiau'n anorfod oherwydd cymhlethdod yr amserlen arholiadau.

Os ydych chi'n astudio ar gampws PDC, cyhoeddir eich amserlen arholiadau ar gyfer y prif gyfnodau ar-lein ar y dyddiad a nodir yn y dudalen Cyfnodau Arholiadau a Dyddiadau Allweddol.

Rhaid i fyfyrwyr fod ar gael trwy gydol y cyfnodau arholiadau i sefyll eu harholiadau. Ni ystyrir addasiadau ar gyfer gwyliau personol. 

Ar ôl cyhoeddi'r amserlen, efallai y bydd achlysuron lle mae'n rhaid gwneud newidiadau anochel i'r amserlen.  Os oes angen, bydd y Tîm Arholiadau, Ardystio a Graddio yn sicrhau bod eitem newyddion yn cael ei chyhoeddi ar UniLife i gynghori myfyrwyr i ail-wirio eu hamserlen.

Rydym yn argymell eich bod yn gwirio'ch amserlen bersonol yn rheolaidd.  Bydd angen i chi ystyried hyn os oes rhaid i chi wneud trefniadau teithio estynedig cyn eich arholiadau.

Cofiwch nad yw lleoliad eich arholiad wedi'i gadarnhau tan tua un wythnos waith cyn y cyfnod arholiadau.  Mae union ddyddiadau ar gael ar Cyfnodau Arholiadau a Dyddiadau Allweddol

Wrth osod yr amserlen arholiadau, nod y Brifysgol yw lleihau nifer y myfyrwyr y disgwylir iddynt sefyll mwy nag un arholiad mewn diwrnod neu ar ddiwrnodau olynol.  Fodd bynnag, mae hyn weithiau'n anorfod oherwydd cymhlethdod yr amserlen arholiadau.

Mae eich amserlen yn dangos cod y modiwl, teitl, cod asesu, dyddiad, amser ac ystafell eich arholiadau.

Sylwer, cyhoeddir gwybodaeth am ystafell a lleoliad bythefnos cyn yr arholiadau.  Ewch i Dod o hyd i Ystafell i ddod o hyd i le y cynhelir eich arholiad.

Bydd eich amserlen hefyd yn dangos anodiadau amserlen arholiadau, sef llaw-fer ar gyfer y math o arholiad rydych chi'n ei sefyll.


Gwybodaeth Darpariaeth Arbennig

Ewch i dudalennau'r Gwasanaeth Anabledd

Os oes unrhyw broblemau gyda'ch amserlen (e.e. gwrthdaro mewn arholiadau, arholiadau sy'n ymddangos nad ydych chi wedi cofrestru ar eu cyfer mwyach, neu os oes unrhyw arholiadau ar goll) yna mae’n rhaid i chi gysylltu ag [email protected] cyn gynted â phosibl.

Os oes gennych ymholiad am amserlen eich arholiadau, cysylltwch ag

[email protected]