Cyhoeddir prif gyfnodau arholiadau ar ddechrau'r flwyddyn. Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud eich hun yn ymwybodol o'r arholiadau y mae angen i chi eu cymryd yn ystod y flwyddyn academaidd ac ym mha fis y maent yn digwydd.
Os bwriedir cynnal arholiad yn ystod un o'r prif gyfnodau, rhaid i chi sicrhau eich bod ar gael drwy gydol cyfnod yr arholiad.
Fodd bynnag, efallai y gallwch wneud cais i sefyll eich arholiadau mewn lleoliad gwahanol i'ch man astudio arferol (Arholiadau Oddi ar y Safle).