Yn dilyn y seremonïau, mae'r holl ddogfennaeth sy'n weddill
yn cael ei phostio drwy'r Post Brenhinol i fyfyrwyr oni bai y gofynnir fel
arall drwy'r System Raddio.
Efallai y gallwch dderbyn eich tystysgrif a / neu'ch
trawsgrifiad cyn eich seremoni graddio. Gweler isod am argaeledd.
Os yw'ch Bwrdd Asesu ym mis Mawrth bydd eich tystysgrif /
trawsgrifiad ar gael ym mis Mehefin.
Os yw'ch Bwrdd Asesu ym mis Mehefin bydd eich tystysgrif /
trawsgrifiad ar gael yn neu ar ôl Seremonïau Graddio mis Gorffennaf.
Os yw'ch Bwrdd Asesu ym mis Medi bydd eich tystysgrif /
trawsgrifiad ar gael ym mis Tachwedd.
Os yw'ch Bwrdd Asesu ym mis Tachwedd, bydd eich tystysgrif /
trawsgrifiad ar gael yn neu ar ôl Seremonïau Graddio mis Ionawr.
Ond mae angen cadarnhad o'm canlyniadau ar unwaith ac ni
allaf aros nes bod fy nogfennau swyddogol ar gael.
Gall pob myfyriwr argraffu copi o'u canlyniadau ar-lein y
gellir ei stampio, ei lofnodi a'i ddilysu gan y Brifysgol fel adlewyrchiad
cywir a manwl o'r dyfarniad / credyd a gafwyd.
Cysylltwch
â'ch Ardal Gynghori ar y Campws.
Mae llythyr yn amlinellu’r amserlenni a chynhyrchu dogfennau
swyddogol y Brifysgol ar gael yma.
Llenwch y ffurflen ar-lein os ydych am dderbyn eich tystysgrif cyn eich
Seremoni Graddio.