Rwyf wedi graddio - beth nesaf?

I'r rhai ohonoch a fynychodd, rydym yn mawr obeithio eich bod wedi mwynhau eich diwrnod graddio!

Unwaith y byddwch wedi graddio, anfonir eich tystysgrif a / neu'ch trawsgrifiad atoch yn eich cyfeiriad cartref cofrestredig oni nodir fel arall.   Byddwch yn derbyn y dogfennau hyn yn ôl pryd wnaethoch chi raddio.  Gweler isod am fwy o wybodaeth.

SYLWER: Ni fyddwch yn derbyn eich tystysgrif a'ch trawsgrifiadau os oes gennych unrhyw ddyled sy'n weddill gyda'r brifysgol.

Manylion pellach am gynnwys eich tystysgrif a'ch trawsgrifiadau.


Oni bai eich bod wedi gofyn fel arall, bydd eich tystysgrif a/neu drawsgrifiad yn cael ei anfon atoch yn eich cyfeiriad cartref cofrestredig.

A wnewch chi ganiatáu hyd at bythefnos ar gyfer dosbarthu yn y DU a hyd at 6 wythnos ar gyfer dosbarthu tramor.

Os gwnaethoch raddio ym mis Ionawr 2023 ac os nad ydych wedi derbyn eich dogfennau erbyn 28 Chwefror 2023 cysylltwch â [email protected]



.

Os gwnaethoch raddio rhwng Gorffenaf 2021 a Mehefin 2022 ac os nad ydych wedi derbyn eich dogfennau o hyd, cysylltwch â [email protected].

Postiwyd eich tystysgrif a'ch trawsgrifiad i'ch cyfeiriad cartref cofrestredig drwy'r Post Brenhinol / Airmail, oni bai y gofynnir yn wahanol.  Ewch i dudalen we Past Gwasanaethau Myfyrwyr yn y Gorffennol i gael gwybodaeth am sut i archebu tystysgrif a thrawsgrifiad newydd.

Oni bai eich bod wedi gofyn fel arall, bydd eich tystysgrif a/neu drawsgrifiad yn cael ei hanfon atoch yn eich cyfeiriad cartref cofrestredig.

Os nad ydych wedi derbyn eich dogfennau erbyn 11 Medi 2023, cwblhewch y ffurflen hon.