Cynllunio eich Diwrnod Graddio

Pethau y mae'n rhaid i chi eu gwneud cyn y diwrnod. . .

Sut byddaf yn derbyn fy ngwahoddiad?

Anfonir gwahoddiadau ar gyfer eich seremoni Graddio atoch drwy e-bost (i'ch cyfeiriad prifysgol a'ch cyfeiriad e-bost personol).  Yna fe'ch anogir i fewngofnodi i'r Gwasanaeth Cofrestru Ar-lein i gofrestru eich presenoldeb a threfnu tocynnau.

Pryd fydda i'n derbyn fy ngwahoddiad?

Os ydych chi'n derbyn eich canlyniadau:

  • ym mis Mawrth, anfonir eich gwahoddiad ym mis Mawrth (cyn / ar ôl y canlyniadau) a bydd eich seremoni ym mis Gorffennaf

Os ydych chi'n derbyn eich canlyniadau:

  • ym mis Mehefin, anfonir eich gwahoddiad ym mis Mawrth (cyn y canlyniadau) a bydd eich seremoni ym mis Gorffennaf.

Os ydych chi'n derbyn eich canlyniadau:

  • ym mis Medi, anfonir eich gwahoddiad ym mis Hydref (ar ôl y canlyniadau) a bydd eich seremoni ym mis Ionawr.

Os ydych chi'n derbyn eich canlyniadau:

  • ym mis Tachwedd, anfonir eich gwahoddiad ym mis Hydref (cyn y canlyniadau) a bydd eich seremoni ym mis Ionawr.

Pryd ddylwn i ymateb i'r gwahoddiad? 

Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni am eich penderfyniad i fynychu Graddio cyn gynted ag y byddwch yn derbyn eich gwahoddiad.  Peidiwch ag aros nes eich bod wedi derbyn eich canlyniadau!

Os na fyddwch yn defnyddio'r system erbyn y dyddiad cau ac yn cofrestru'ch bwriad, tybir nad ydych yn dymuno mynychu eich seremoni graddio.

Beth os na allaf fynychu fy seremoni? 

Hyd yn oed os nad ydych yn gallu dod i'ch seremoni, rhaid i chi fewngofnodi i'ch cyfrif Graddio o hyd.  Mae rhan o'r broses yn cynnwys cofrestru gwybodaeth bwysig mewn perthynas â dosbarthu Tystysgrifau.  Os na fyddwch yn cofrestru, bydd eich tystysgrif yn cael ei phostio i'ch cyfeiriad cartref.

Beth os nad ydw i'n gallu bod yn bresennol ond eisiau gohirio tan ddyddiad diweddarach?

Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y gallwch ohirio'ch seremoni i'r gyfres nesaf o seremonïau.  Bydd angen i chi wneud cais i ohirio’ch seremoni.

Noder bod dyddiad cau llym ar gyfer ceisiadau gohirio.

Beth am docynnau i'm gwesteion?

Mae pob myfyriwr sy'n ymateb i'w gwahoddiad cyn y dyddiad cau cychwynnol yn sicr o gael dau docyn gwesteion.  Am fwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen tocynnau.

Beth petawn yn astudio fy nghwrs mewn Coleg Partner neu Goleg Masnachfraint?

Os ydych chi'n astudio cwrs Prifysgol De Cymru gyda'r partneriaid canlynol yn y Brifysgol, cewch eich gwahodd i fynychu seremoni graddio Prifysgol De Cymru:

• Coleg Beacon

• Capita Learning and Development

• Coleg Caerdydd a'r Fro

• Coleg Gwent

• Colegau Cymru

• Coleg y Cymoedd

• Cymdeithas Dyslecsia Academi Singapore (DAS)

• Coleg Busnes a Rheolaeth Ewrop

• Coleg Gŵyr Abertawe

• Institut de Préparation à l’Administration Générale (IPAG)

• Management Development Centre (MDCUK)

• Learna Limited

• Coleg Merthyr

• The Football League Community Limited

• Y 2% uchaf o Brunei

• Coleg Cymunedol YMCA Cymru


Gwahoddir unrhyw fyfyriwr a astudiodd gwrs Prifysgol De Cymru gyda phartner nad yw ar y rhestr uchod i fynychu seremoni wobrwyo yn y coleg priodol a bydd yn derbyn gwybodaeth yn uniongyrchol ganddynt.

Sut ydw i'n archebu fy nhocynnau?

Fel myfyriwr graddedig, byddwch yn cael tocyn yn awtomatig pan fyddwch chi'n cofrestru eich presenoldeb.  Gallwch wneud cais am hyd at ddau docyn i westeion drwy'r system gofrestru graddio, fodd bynnag, dim ond os yw graddedigion yn cofrestru cyn eu dyddiad cau cofrestru y gallwn warantu tocynnau.

Faint mae'r tocynnau yn ei gostio?

Mae tocynnau gwesteion safonol am ddim.  Mae Prifysgol De Cymru yn un o'r ychydig sefydliadau nad ydynt yn codi tâl ar raddedigion na gwesteion i fynychu eu seremonïau. Fodd bynnag, codir tâl ar unrhyw docynnau gwesteion ychwanegol, y tu hwnt i'r dyraniad safonol o 2.

A all plant ddod i'r seremoni?

Mae'r seremonïau yn para tua 2 awr ac mae profiad wedi dangos nad ydynt yn addas i blant wrth iddynt fynd yn ddiflas neu'n aflonydd. Allan o barch at y graddedigion a gwesteion eraill, fel arfer ni chaniateir i blant o dan 11 oed fynd i mewn i'r awditoriwm. Lle mae plant yn mynychu, argymhellir eu bod yn gwylio llif byw y seremoni o ardal Gradfest. Sylwch fod yn rhaid i blant gael eu goruchwylio gan oedolyn cyfrifol bob amser.

Pwy sydd angen tocyn?

Oherwydd y rheoliadau tân yn y seremonïau Graddio, bydd angen tocyn ar bob un o’r graddedigion a gwesteion.  Rhoddir tocyn i raddedigion yn awtomatig wrth gofrestru eu presenoldeb ar y system cofrestru graddio.  Bydd angen tocyn ar bob gwestai yn y neuadd seremoni.

Gall graddedigion wneud cais am hyd at ddau docyn gwadd drwy'r system cofrestru graddio.  Fodd bynnag, dim ond os yw graddedigion yn cofrestru cyn eu dyddiad cau cofrestru y gallwn warantu tocynnau.

Beth am docynnau ychwanegol?

Rydym yn deall pa mor bwysig yw hi i chi rannu eich diwrnod arbennig gyda theulu a ffrindiau. Felly, os bydd tocynnau gwesteion ychwanegol ar gael ar gyfer unrhyw un o'r seremonïau, caiff hyn ei gyfleu trwy dudalennau UniLife penodol sy'n ymwneud â phob un o'r seremonïau.  Cewch ragor o fanylion am sut i gael gafael ar y rhain mewn gohebiaeth yn y dyfodol.

Mae tocynnau gwesteion ychwanegol yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.  Os bydd unrhyw docynnau ychwanegol ar gael, codir tâl.  Yn anffodus, nid oes sicrwydd y bydd tocynnau gwesteion ychwanegol ar gael ar gyfer eich seremoni.


Ond mae arnaf wir angen tocyn ychwanegol

Gofynnwn yn gwrtais i raddedigion a'u gwesteion beidio â chysylltu â'r tîm Asesu i ofyn am docynnau ychwanegol, gan nad ydym yn gallu dyrannu tocynnau ychwanegol.

Pryd fydda i'n cael fy nhocyn?

Cesglir tocynnau ar y diwrnod.  Gweler ein tudalennau Ar Eich Diwrnod Graddio am fwy o wybodaeth.

Beth os oes gen i westeion gyda mi ar y diwrnod nad oes ganddynt docynnau?

Mae yna leoliadau lle gallwch weld y seremonïau'n cael eu ffrydio'n fyw. Mae croeso i unrhyw westeion heb docynnau ymuno â ni yn ICCW ar ddiwrnod eich seremoni a gallent wylio'r seremoni yn y lleoliadau hyn.

A oes gennych gwestiwn o hyd am eich tocynnau?

Cysylltwch â ni drwy’r Ardal Gynghori Ar-lein.



Beth sydd angen i mi ei wisgo i raddio?

Mae'n ofynnol i'r holl fyfyrwyr sy'n mynychu eu seremoni graddio (graddedigion) wisgo gwisg academaidd.  Mae hyn yn cynnwys gŵn, cwfl a chap.  O dan eich gwisg academaidd, dylech wisgo dillad smart - dim siorts, jîns neu esgidiau ymarfer, os gwelwch yn dda.

Sut ydw i'n archebu fy ngwisg academaidd?

Unwaith y byddwch wedi cadarnhau eich bod yn bresennol yn eich seremoni graddio, byddwch yn derbyn e-bost gyda manylion pellach am gyflenwr gwisg academaidd y Brifysgol Ede and Ravenscroft

Gallwch chi logi neu brynu eich gwisg academaidd.

Pryd allaf archebu fy ngwisg academaidd?

Anfonir gwybodaeth bellach, gan gynnwys manylion am sut i archebu, drwy e-bost unwaith y bydd y cofrestriad wedi'i gwblhau.

Bydd llinellau archebion yn cau bythefnos cyn dyddiad eich seremoni.  Yn dilyn hyn, dim ond ar ddiwrnod eich seremoni y byddwch yn gallu llogi gwisg academaidd.

Faint mae'n gostio i logi gŵn?

Cost llogi gwisg academaidd am y diwrnod fydd tua £50 . Mae yna gost ychwanegol o tua £20 am wythnos ychwanegol o logi, ac ar ôl hynny rhaid i chi anfon y gŵn yn ôl i Ede and Ravenscroft.  Os archebwch Ar-lein byddwch yn derbyn gostyngiad o £5 o bris archebion ffôn.

Pa fesuriadau sydd angen i mi eu darparu?

Bydd angen i chi ddarparu eich mesuriad uchder, cylchedd eich pen a dyddiad eich seremoni graddio i Ede and Ravenscroft.  Dylai Ede and Ravenscroft ddal gwybodaeth am lefel y dyfarniad yr ydych yn ei astudio ac ar sail hyn y wisg academaidd briodol y dylech ei gwisgo.

Pryd mae llinellau archebion yn cau ar gyfer gwisg academaidd?

Bydd llinellau archebion yn cau bythefnos cyn dyddiad eich seremoni.  Yn dilyn hyn, dim ond ar ddiwrnod eich seremoni y byddwch yn gallu llogi gwisg academaidd.

A allaf logi gwisg academaidd ar y diwrnod?

Gallwch, ond cofiwch y bydd llogi ar y diwrnod yn ddrutach, ac nid oes sicrwydd y bydd gwisg academaidd ar gael.

Beth os ydw i'n archebu fy ngŵn ond yn methu fy arholiadau ac nad wyf yn gymwys i fynychu graddio?

Bydd Ede and Ravenscroft yn rhoi ad-daliad i chi ar eich archeb os nad ydych yn gymwys i raddio.  Rhaid i chi gyflwyno'ch hawliad iddynt yn ysgrifenedig o leiaf 7 diwrnod cyn y seremoni, gan roi eich enw, enw'r Brifysgol, dyddiad y seremoni a'ch gwybodaeth gyfeirio.

Pa liw yw gynau a chyflau Prifysgol De Cymru?

Mae ein lliwiau gŵn a'n cwfl yn goch ac yn llwyd. Mae'r wisg academaidd yn amrywio, yn dibynnu ar lefel eich dyfarniad.  Llawrlwythwch luniau o’n gwisg academaidd

A oes cod gwisg ar gyfer fy ngwesteion?

Nid oes cod gwisg swyddogol ar gyfer gwesteion, ond mae'r seremoni yn achlysur ffurfiol ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn dewis gwisgo'n smart yn unol â hyn.

A oes gennych gwestiwn o hyd am eich gwisg academaidd?

Cysylltwch â ni drwy’r ArdalGynghori Ar-lein.

Pethau y bydd angen i chi eu gwneud cyn y diwrnod. . .

A oes ffotograffydd swyddogol ar gyfer graddio?

Oes, mae Tempest Photography yn darparu'r ffotograffiaeth swyddogol ar gyfer ein holl seremonïau graddio.

Sut ydw i'n archebu fy ffotograffiaeth?

Nid ydych yn archebu cyn y seremonïau - rhoddir sampl ar unwaith i chi yn y stiwdio pan gymerir eich ffotograffau, fel y gallwch ddewis eich ffefrynnau ac i roi eich archeb naill ai yn y ddesg werthu neu wedyn drwy'r wefan neu post / ffôn.

Bydd pob pecyn a archebir ar y diwrnod yn derbyn waled a phrintiau bach am ddim gyda'r archeb.

Pa gynhyrchion sydd ar gael?

Mae Tempest yn cynnig amrywiaeth eang o gynhyrchion sydd ar gael i'w gweld ymlaen llaw ar: www.tempest-graduations.co.uk

Pryd dylwn i dynnu fy lluniau?

Bydd Tempest yn gweithredu nifer o stiwdios ar ddiwrnod graddio . Bydd y rhain ar agor o'r amser y caiff gynau eu dosbarthu tan awr ar ôl y seremoni olaf. Gallwch ymweld â ni cyn neu ar ôl eich seremoni.

Fodd bynnag, os byddwch yn dewis tynnu eich ffotograffau cyn eich seremoni, rhaid cwblhau hwn o leiaf 45 munud cyn dechrau eich seremoni.

A all fy nheulu dynnu lluniau gyda mi?

Gallent, gall Tempest Photography ddarparu ffotograffau ohonoch chi a'ch teulu.

A dynnir lluniau yn ystod y seremoni?

Bydd Tempest Photography wrth law hefyd i gasglu'r foment y byddwch chi'n croesi'r llwyfan ac yn ennill eich gradd.  Bydd y delweddau hyn ar gael i'w gweld yn syth ar ôl eich seremoni a gellir prynu printiau i fynd â nhw ymaith ar y diwrnod.

Fel arall, ewch iwww.tempest-events.co.uk, gan ganiatáu 7 diwrnod ar ôl eich digwyddiad i archebu eich llun cyflwyniad.

A oes gennych gwestiwn o hyd am ffotograffiaeth graddio?

Cysylltwch â ni drwy’r  Ardal Gynghori Ar-lein.

Ydych chi'n darparu ar gyfer Anghenion Penodol?

Ydyn.  Darperir ar gyfer graddedigion a gwesteion sydd â gofynion ychwanegol, ond gofynnwn i chi roi gwybod i ni am eich gofynion ymlaen llaw er mwyn i ni allu sicrhau bod y gwasanaethau priodol yn eu lle.

Sut ydw i'n eich hysbysu o unrhyw Anghenion Penodol?

Gallwch roi gwybod i ni yn gyfrinachol am unrhyw anghenion ychwanegol pan fyddwch yn cofrestru eich presenoldeb neu drwy fewngofnodi i'r System Graddio.  Mae angen i ni wybod ai chi (y Graddedigion) neu'ch gwestai sydd â'r gofyniad ychwanegol.  Rydym yn gwirio'r wybodaeth hon yn rheolaidd a byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom.

Beth am ddefnyddwyr cadeiriau olwyn?

Mae gan ein lleoliad seremoni barth eistedd pwrpasol. Unwaith eto, gofynnwn i chi ein hysbysu drwy'r System Raddio os ydych chi neu unrhyw un o'ch gwesteion yn ddefnyddwyr cadair olwyn. 


A oes parcio i'r anabl ar gael yn nes at y lleoliad?

Mae modd parcio ar gael yn ICC Cymru ar sail y cyntaf i'r felin.  Gweler gwefan ICC Cymru am ragor o wybodaeth.

Mae un o'm gwesteion yn gwisgo cymorth clyw.  A oes dolen cymorth clyw yn y lleoliad?

Mae gan ein lleoliad seremoni ddolen cymorth clyw. Ewch i'r ystafell gotiau yn ICC Cymru wrth gyrraedd am ragor o wybodaeth. 

A oes gennych chi gwestiwn am Anghenion Penodol o hyd?

Cysylltwch â ni drwy’r Ardal Gynghori Ar-lein.

Graddio a Dyled Prifysgol

Yn unol â pholisi'r Brifysgol, ni fyddwch yn gymwys i fynychu eich seremoni graddio os oes gennych ddyled sy'n ddyledus i'r Brifysgol.  Bydd hyn hefyd yn berthnasol os byddwch yn dod yn ddyledwr ar ôl cofrestru ar gyfer eich seremoni.

Ni fyddwch hefyd yn derbyn unrhyw ddogfennaeth swyddogol yn ymwneud â'ch canlyniadau, gan gynnwys eich tystysgrif a / neu drawsgrifiad, hyd nes y caiff yr holl ddyledion sy'n ddyledus eu clirio.

Os ydych chi'n credu bod arnoch ddyled i'r Brifysgol ar hyn o bryd, cysylltwch â'r Adran Gyllid ar [email protected] cyn gynted â phosibl.

Os ydych chi neu'ch gwesteion yn teithio i Dde Cymru i fynd i seremoni graddio ac yn dymuno archebu llety dros nos neu arhosiad hirach mae nifer o opsiynau ar gael.


Llety yng Nghasnewydd

Mae ICC Cymru yn rhan o'r casgliad Celtaidd ac mae llety ar gael i'w archebu yng Ngwesty'r Celtic Manor.

Mae Casnewydd yn cynnig amrywiaeth eang o westai a gwely a brecwast i weddu i bob chwaeth a chyllideb.

Gweler gwefan Cyngor Dinas Casnewydd am fwy o wybodaeth.