Ar eich Diwrnod Graddio

Beth ddylwn i ei wneud wrth gyrraedd?

Er mwyn sicrhau bod eich diwrnod yn rhedeg mor ddidrafferth â phosibl, rydym yn eich cynghori i gyrraedd o leiaf ddwy awr cyn dechrau eich Seremoni Graddio. Wrth gyrraedd, y peth cyntaf y dylech chi ei wneud yw casglu eich gwisg academaidd.

Bydd aelod o Dîm Ede and Ravenscroft yn gosod eich gwisg, cwfl a het, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd wedi gwisgo'n barod ar gyfer eich seremoni.

Byddwch yn derbyn cyfarwyddiadau manwl ar gyfer eich Diwrnod Graddio drwy e-bost, tua wythnos cyn eich seremoni.


Sut ydw i'n cofrestru fy mhresenoldeb ac yn casglu fy nhocynnau?

Unwaith y byddwch wedi casglu eich gwisg academaidd byddwch yn cael eich cyfeirio at y ddesg Casglu Tocynnau i gofrestru eich presenoldeb a chasglu eich tocynnau, eich tocynnau gwesteion ac unrhyw docynnau ychwanegol a ddyrannwyd i chi.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw eich tocynnau'n ddiogel gan na fydd dim mynediad i leoliad y seremoni heb docyn.


A fydd tocynnau gwesteion ychwanegol ar gael?

Ni allwn warantu y bydd tocynnau ychwanegol i westeion ar gael ar gyfer unrhyw un o'n seremonïau graddio.  Fodd bynnag, os nad ydych wedi llwyddo i wneud cais am docynnau gwesteion ychwanegol neu os oes angen tocynnau gwesteion pellach arnoch ar y diwrnod, holwch yn y Ddesg Ymholiadau lle bydd rhagor o wybodaeth ar gael.


Ble ydw i’n cael tynnu fy lluniau proffesiynol?

Bydd pob lleoliad yn cael ei gyfeirio ar y diwrnod a bydd stiwardiaid ar gael ar gyfer unrhyw ymholiadau sydd gennych.


Beth fydd yn digwydd os byddaf yn cyrraedd yn hwyr ar gyfer fy seremoni raddio?

Rhaid i'r holl raddedigion a'r gwesteion eistedd yn lleoliad y seremoni o leiaf 20 munud cyn amser dechrau'r seremoni.

Dim ond ar ddisgresiwn y Prif Stiward y gellir derbyn unrhyw raddedigion neu westeion sy'n cyrraedd ar ôl yr amser hwn.


Gwybodaeth bwysig am ddiogelwch

Bydd gwiriadau diogelwch manylach ar waith ar gyfer yr holl seremonïau graddio, a fydd yn cynnwys polisi chwilio i ddiogelu mwynhad yr holl raddedigion a'r gwesteion sy'n mynychu.  Rydym yn gofyn i chi gynorthwyo drwy gymryd sylw o'r canlynol:

 

  • Ni chaniateir bagiau mawr - mae'n debygol y bydd unrhyw fag uwchlaw maint bag dwrn merched yn cael ei chwilio
  • Ni chaniateir cesys dillad yn y lleoliad graddio, gellir gwrthod mynediad i raddedigion a gwesteion
  • Ar ôl cyrraedd, bydd graddedigion a gwesteion yn dod i mewn i'r lleoliad trwy fynedfeydd ar wahân, gwnewch yn siŵr bod pob aelod o'r parti yn derbyn y tocynnau cywir.

Sicrhewch eich bod yn cynllunio'ch cyrhaeddiad er mwyn caniatáu digon o amser ar gyfer y mesurau diogelwch cynyddol.


A oes gennych gwestiwn o hyd ynghylch trefn eich diwrnod graddio?

Cysylltwch â ni drwy’r Ardal Gynghori Ar-lein.

Pa mor hir fydd y seremoni graddio yn para?

Bydd y seremoni graddio yn para tua awr a hanner i ddwy awr.


A allaf ddod â phlant i'r seremoni graddio?

Gallwch ddod â phlant, ond gall y seremoni bara hyd at awr a dwy awr, felly nid yw'n ddoeth dod â phlant ifanc iawn.  Ni all plant eistedd gyda graddedigion - rhaid iddynt eistedd gyda'r gwesteion.

Gofynnwn iddynt gael eu tynnu allan o'r awditoriwm os ydynt yn tarfu ar y seremoni. Oherwydd rheoliadau tân yn y seremonïau Graddio, bydd angen tocyn ar bob gwestai, gan gynnwys plant.  Mae hyn yn cynnwys babanod mewn pramiau a phlant yn eistedd ar liniau oedolion.


Beth sy'n digwydd ar ôl cyrraedd lleoliad y seremoni?

Bydd y drysau i'r neuadd seremoni ar agor 45 munud cyn dechrau'r seremoni.  Pan fyddwch chi'n cyrraedd lleoliad y seremoni bydd stiwardiaid yn eich cyfeirio chi a'ch gwesteion i'r fynedfa gywir, bydd eich tocynnau'n cael eu gwirio a byddwch yn cael eich cyfeirio at eich sedd.

Byddwch wedi cael rhif sedd penodol ac mae'n bwysig iawn nad ydych yn symud nac yn cyfnewid seddau gyda graddiwr arall.  Ar ôl i chi wirio'ch tocyn a'ch tywys i'ch sedd, mae'n hanfodol nad ydych yn gadael y neuadd.

Sicrhewch eich bod wedi cymryd pob seibiant cyn mynd i mewn i'r neuadd seremoni.


Beth ddylwn i ei wneud gyda'm heiddo personol?

Ni chewch ddychwelyd i'r un sedd ar ôl croesi'r llwyfan a chael eich dyfarniad. Felly, ni ddylech ddod ag unrhyw eiddo personol i mewn i'r neuadd seremoni.

Mae hyn yn cynnwys bagiau o unrhyw ddisgrifiad, cotiau neu ddyfeisiau electronig. Rydym yn cynghori bod eich holl eiddo personol yn cael ei adael gyda'ch gwesteion.


Beth fydd yn digwydd pan fydd fy nyfarniad yn cael ei gyflwyno i mi?

  • Wrth fynd i mewn i’r neuadd seremoni, bydd Marsial yn casglu eich tocyn, a byddwch yn cael eich amlygu fel rhywun sy'n bresennol.
  • Byddwch yn cael eich tywys i’ch sedd ac mae'n rhaid i chi aros yno oni bai eich bod yn cael caniatâd i adael gan Farsial.

  • Cyn cael eich cyflwyno, byddwch yn cael eich cyfeirio tuag at ochr chwith y llwyfan gan Marshal.

  • Pan gaiff eich enw ei alw gan y Cyflwynydd, dylech fynd ymlaen i'r llwyfan a symud ymlaen ar draws y llwyfan i gael eich cyfarch gan y Canghellor neu'r enwebai.

  • Pan fyddwch wedi gadael y llwyfan (o'r ochr dde) dylech dynnu'ch cap a'i roi o dan eich braich.  Ni ddylid rhoi capiau ymlaen eto yn ystod y seremoni.

  • Wrth adael y llwyfan, cewch eich cyfeirio'n ôl at eich sedd.  Efallai nad hon yw eich sedd wreiddiol ond gallwch gasglu unrhyw eiddo ar ôl y seremoni.

  • Dylech aros yn eistedd yn neuadd y seremoni tan ddiwedd y seremoni.  Bydd Marsial yn eich cyfeirio o'ch sedd i'r allanfa yn eich tro.

I wylio clip fideo o'r hyn sy'n digwydd pan fyddwch yn croesi'r llwyfan, cliciwch yma.

A oes gennych gwestiwn o hyd ynglŷn â'r seremoni?

Cysylltwch â ni drwy’r Ardal Gynghori Ar-lein


Yn ystod seremonïau graddio'r Brifysgol, bydd ffrwd fideo byw ar gael i'w gweld ar-lein:

Dim ond yn ystod y seremonïau graddio y mae'r ffrwd yn fyw. Gallwch ddod o hyd i ddyddiad, lleoliad ac amser graddio eich cwrs yma

Ar ôl y seremonïau, byddwch yn gallu gwylio archif o'r ffrydiau.

A oes gennych gwestiwn o hyd ynghylch parcio ar gyfer y seremonïau?

Cysylltwch â ni drwy’r Ardal Gynghori Ar-lein.

Winter Grads 2