Os hoffech godi mater, mae'n ofynnol i chi lenwi'r ffurflen
ar-lein gan adrodd eich pryderon o fewn 5 diwrnod gwaith i ddyddiad yr
arholiad, gan ddarparu cymaint o dystiolaeth â phosibl i gefnogi'ch cwyn.
Os oes gennych rywfaint o dystiolaeth ffisegol i'w chyflwyno
yna dylid mynd â hi i'r Swyddfa Arholiadau, Ardystio a Graddio yn syth ar ôl yr
archwiliad, neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.
Bydd y Brifysgol yn ceisio cwblhau ei
hymchwiliadau cyn gynted â phosibl, a dim hwyrach na dechrau'r Byrddau Asesu.