Ystyrir yr holl ganlyniadau a dderbyniwch yn ystod y flwyddyn yn rhai dros dro a gallent fod yn destun newid hyd nes y bydd cadarnhad yn y byrddau asesu.
Cytunir ar raddau modiwl cyffredinol myfyrwyr mewn byrddau asesu pwnc. Yna bydd y bwrdd asesu pwnc yn trosglwyddo graddau modiwl y myfyrwyr i'r bwrdd asesu dyfarniad a dilyniant perthnasol. Mae byrddau asesu dyfarniadau a dilyniant yn gyfrifol am benderfynu ar ddilyniant myfyrwyr, cyflawniad ac, os yw'n briodol, y canlyniad cyffredinol (dosbarthiad) ar sail y graddau a ddarparwyd gan y byrddau asesu pwnc.
Cyhoeddir yr holl ganlyniadau drwy'r Gwasanaeth Canlyniadau. Drwy gydol y Flwyddyn Academaidd, dylech allu gweld marciau am asesiad wedi'i gwblhau (ni fydd y marciau hyn wedi'u cadarnhau gan y Bwrdd Asesu a gallant newid). Unwaith y bydd eich canlyniadau wedi'u cadarnhau trwy fyrddau asesu byddant ar gael drwy'r Gwasanaeth Canlyniadau ar y dyddiadau penodedig. Ar yr adeg hon bydd yr holl ganlyniadau ar gael gan gynnwys marciau traethawd hir ac arholiadau.
Mae’r Rheoliadau ar gyfer dulliau a Addysgir yn cynnig gwybodaeth pellach ar gymwysterau a sut y maent yn cael eu dosbarthu.