Cyfeirio

Mae gofyn i chi ailsefyll yr asesiad(au) gyda statws 'Ailsefyll' yn ystod y cyfnod ailsefyll.

Byddwch yn ymwybodol y bydd goblygiadau o ran eich cynnydd os na fyddwch yn cwblhau'r gwaith cwrs gofynnol neu’n sefyll eich arholiadau.

Sylwer y bydd y pwyntiau canlynol yn berthnasol i'ch asesiad(au) a'ch modiwl(au) ailsefyll:

  • Mae’n bosibl na fyddwch yn gallu ennill marc sy'n uwch na marc pasio cyffredinol y modiwl mewn unrhyw fodiwl lle rydych yn ailsefyll asesiad. Bydd eich marc asesu gwirioneddol yn cael ei gofnodi, a bydd y modiwl cyffredinol yn cael ei gapio ar farc pasio’r modiwl. Cyfeiriwch at lawlyfr y cwrs i gael marc pasio’r modiwl.

  • Os yw’r marc rydych chi’n ei gael wrth ailsefyll yn is na’r hyn rydych chi wedi’i gyflawni yn eich ymgais gyntaf, bydd y marc ailsefyll yn dal i gael ei gofnodi.

  • Os byddwch yn methu â rhoi cynnig ar ailadrodd modiwl, bydd marc “0” yn cael ei gofnodi.

  • NID YW'R rheol 5 diwrnod gwaith ar gyfer cyflwyno gwaith yn hwyr yn berthnasol i waith ailsefyll neu waith a gyflwynir fel ymgais gyntaf yn ystod cyfnod ailsefyll.

Beth sydd angen i mi ei wneud nawr?

  • Rydym yn eich cynghori i ddarllen y Wybodaeth Ailsefyll ynghylch gwneud eich asesiad(au) yn ystod y cyfnod ailsefyll.

  • Eich cyfrifoldeb chi yw cysylltu ag arweinydd eich modiwl ynghylch eich asesiad(au).

Myfyrwyr Rhyngwladol

Mae’n bosibl y caiff Hyd eich Astudiaethau ei Ymestyn – Gan nad ydych wedi llwyddo i gwblhau’r holl asesiadau sydd wedi’u neilltuo i chi yn ystod eich cyfnod astudio diwethaf, efallai na fydd gennych ddigon o amser ar eich fisa presennol i gwblhau eich astudiaethau yn y DU. Os ydych yn pryderu y gallai hyn fod yn wir, dylech gysylltu â'r Tîm Mewnfudo a Chyngor i Fyfyrwyr Rhyngwladol.

Os oes angen rhagor o gyngor neu gymorth arnoch, cysylltwch â’r: