Llongyfarchiadau, rydych wedi ennill Dyfarniad Canolradd.
Mae’r Bwrdd Asesu wedi cytuno eich bod wedi methu yn y fath ffordd ag sy’n awgrymu nad oes unrhyw bosibilrwydd y byddwch yn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus. Gall hyn fod oherwydd nad ydych wedi cyflawni'n academaidd neu nad ydych wedi ymgysylltu â'ch cwrs yn ôl y disgwyl. O ganlyniad, rydych wedi cael eich terfynu oddi ar eich cwrs ac ni allwch barhau i astudio ar eich cwrs. Fodd bynnag, er nad ydych wedi gallu cwblhau’r cwrs llawn rydych wedi cofrestru arno, rydych wedi ennill digon o gredydau i gael dyfarniad canolradd.
Os oes gan gwrs deitl cwrs gwarchodedig oherwydd gofynion cyrff Proffesiynol, Statudol neu Reoleiddiol (PSRB), efallai y bydd gan ddyfarniadau canolradd deitl cwrs gwahanol.
Cysylltwch â'r Tîm Cyngor Dilyniant i drafod yr opsiynau sydd bellach ar gael i chi.
Os ydych yn Fyfyriwr Rhyngwladol, efallai yr hoffech ddarllen y dudalen Gwybodaeth i Fyfyrwyr Rhyngwladol – Gadael. Os oes angen rhagor o gyngor arnoch, cysylltwch â’r gwasanaeth Mewnfudo a Chyngor i Fyfyrwyr Rhyngwladol.
Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch, cysylltwch â'r: