Deall eich Canlyniadau

Cyhoeddir yr holl ganlyniadau drwy'r Gwasanaeth Canlyniadau. Bydd y gwasanaeth yn dangos eich canlyniadau a gadarnhawyd yn dilyn y byrddau asesu. Drwy glicio ar y radd gyffredinol yn y gwasanaeth, cewch eich cyfeirio at dudalen sy'n ymwneud yn benodol â'ch gradd sy'n rhoi esboniad o'r hyn y mae'r radd a gadarnhawyd yn ei olygu, ynghyd ag unrhyw wybodaeth a dolenni atodol eraill a allai fod o ddefnydd i chi.

Gallwch hefyd weld dadansoddiad o radd a marciau asesiadau’r modiwl trwy ddewis y cyfnod perthnasol e.e., 'Cynnig Cyntaf' neu 'Ail Gynnig' o dan y teitl 'Trosolwg'.

Os hoffech weld rhestr lawn o'r graddau, gweler 'Graddau Gyffredinol' isod.

Myfyrwyr Rhyngwladol

Llwybr Graddedigion a Chwblhau’r Cwrs

Os ydych wedi llwyddo i basio'ch gradd, bydd y Brifysgol yn mynd ymlaen i gadarnhau hyn gyda UKVI. Byddant yn cael gwybod eich bod wedi cwblhau eich cwrs yn llwyddiannus fel rhan o'r cyfrifoldebau adrodd ar Lwybr Graddedigion. Os nad ydych yn fodlon â'ch canlyniad ac yn ystyried gwneud apêl academaidd, neu gais am amgylchiadau esgusodol yn dilyn y bwrdd, sy'n golygu y gallai eich canlyniadau newid, cysylltwch â'r Tîm Cyngor Mewnfudo a Myfyrwyr Rhyngwladol ar unwaith.

Llwybr Graddedigion ac Ailsefyll neu Ailadrodd

Os ydych chi ym mlwyddyn olaf astudiaethau Llwybr Graddedigion ac yn bwriadu gwneud cais ar ddiwedd eich cwrs, byddwch yn ymwybodol y gall ailsefyll ac ailadrodd effeithio ar eich gallu i wneud cais llwyddiannus am y Llwybr Graddedigion.

Os ydych yn ailsefyll neu’n ailadrodd, efallai y bydd angen estyniad fisa arnoch. Mewn rhai achosion, gall hyn hefyd olygu nad ydych yn gymwys ar gyfer y Llwybr Graddedigion.

Os ydych yn ailsefyll neu’n ailadrodd, cysylltwch â'r tîm Cyngor Mewnfudo a Myfyrwyr Rhyngwladol trwy [email protected]  cyn gynted ag y bo modd; gallan nhw ddarparu cyngor pellach.